Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2025 am Lyfrau i Blant a Phobl Ifanc

Llenyddiaeth

Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Clawr y Flwyddyn 2025 am Lyfrau i Blant a Phobl Ifanc

 

Cyhoeddwyd teitlau’r llyfrau sydd wedi ennill Gwobrau Clawr y Flwyddyn am Lyfrau i Blant a Phobl Ifanc 2025.

 

Mae dau gategori i’r gwobrau – Clawr Llyfr Cymraeg a Chlawr Llyfr Saesneg. 

 

Enillydd y categori Gymraeg:

Nos Da Blob (Y Lolfa). 

Darluniad y clawr: Huw Aaron

Dyluniad y clawr: Opal Roengchai

Awdur: Huw Aaron

 

 

Enillydd y categori Saesneg:

Fishfolk (Firefly Press)

Darluniad y clawr: Hannah Doyle

Awdur: Steven Quincey-Jones

 

 

 

Dywedodd Huw Aaron: “Mae’n nhw’n dweud na ddylech chi farnu llyfr ô’r clawr… ond dyna’n union mae pawb YN ei wneud, ac mae gofal o glawr llyfr yn awgrymu bod gofal hefyd wedi ei gymryd o’r cynnwys tu fewn. Felly mae’n wych bod gyda ni wobrau sy’n dathlu’r grefft bwysig o ddylunio clawr. Ac wrth gwrs, dw i ar ben fy nigon i weld Blob bach yn ennill eleni! Diolch o galon i Clare Doughty am helpu lywio’r clawr i’w fersiwn terfynol.”

 

Dywedodd Hannah Doyle: “Diolch yn fawr iawn am ddewis Fishfolk ar gyfer Gwobr Clawr Llyfr Plant y Flwyddyn! Rwyf wrth fy modd. Diolch i Firefly Press, ac yn arbennig i Becka Moor am roi ei ffon hud ar y dyluniad er mwyn gwneud i’r clawr sefyll allan. Ac yn amlwg, diolch i Steven Quincey-Jones am ysgrifennu llyfr mor ysbrydoledig ac yn llawn awyrgylch. Roedd yn brosiect gwych i fod yn rhan ohono.”

 

Sefydlwyd y gwobrau er mwyn dathlu cyfraniad darlunwyr a dylunwyr, a’u gwaith i ddod â straeon yn fyw a chreu llyfrau trawiadol a deniadol sy’n apelio at ddarllenwyr ifanc. Cyflwynwyd y gwobrau am y tro cyntaf yn 2024.

 

Dewiswyd y chwech llyfr oedd ar y rhestrau byrion, a’r cyfrolau buddugol, gan aelodau Panel Pobl Ifanc y Cyngor Llyfrau. 

 

Mae dylunydd/darlunydd y clawr buddugol yn y ddau gategori yn ennill neu’n rhannu gwobr ariannol o £500.

 

Cefnogir y Gwobrau gan Adran Addysg Llywodraeth Cymru o dan Raglen Cymorth Grant y Cwricwlwm.

RHANNWCH