Mae Anabledd a Dysgu Cymraeg yn rhan o Brosiectau Cyngor Celfyddydau Cymru, Llais y Lle
Mae Anabledd a Dysgu Cymraeg yn rhan o Llais y Lle (The Voice of Place), sef prosiect un flwyddyn a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru; ei nod yw datblygu addysgeg dysgu’r Gymraeg gan ddefnyddio ysgrifennu creadigol i gefnogi pobl lle nad yw’r elfennau clywedol, llafar, a chyfathrebu cymdeithasol amgylcheddau dysgu traddodiadol y Gymraeg yn hygyrch iddynt.
- Drwy gydol y flwyddyn byddwn yn cwrdd yn fisol yn The Place, Casnewydd, i archwilio pa ddulliau sydd orau i’n galluogi i ddysgu, a sut y gellid eu cymhwyso i ddysgu Cymraeg drwy ysgrifennu creadigol.
- Yn dilyn cyfnod o 6 mis o ymchwilio, a digwyddiad cyhoeddus i rannu a chasglu adborth, bydd y prif artistiaid, Krystal S. Lowe a Nia Gandhi, yn treulio 2 fis yn drafftio sylabws Ysgrifennu Creadigol ar gyfer datblygu caffael yr iaith Gymraeg a magu hyder ynddi.
- Treulir 4 mis olaf y prosiect yn treialu, profi, ac ail-ddrafftio’r sylabws hwn.
Ar bob cam o’r ffordd, bydd ein cymuned o bobl anabl greadigol yn arwain y broses o gymryd penderfyniadau, nid yn unig gyda’r ddau brif artist ond hefyd gyda’r rhai y byddwn yn ymuno â hwy ar hyd y daith.

Nod Anabledd a Dysgu Cymraeg yw grymuso ac arfogi pobl anabl greadigol â’r sgiliau i ddatblygu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn eu hymarfer artistig, ac adeiladu gwell cysylltiadau â’r celfyddydau Cymreig i sicrhau datblygiad parhaus. Etifeddiaeth Anabledd a Dysgu Cymraeg yw cynnig addysgeg dysgu’r Gymraeg y gellir ei rhannu gydag ymarferwyr ysgrifennu creadigol ledled Cymru i alluogi cyfleoedd dysgu Cymraeg mwy cynhwysol a chreadigol fel bod modd i artistiaid ddatblygu gwaith dwyieithog a Chymraeg.
Tîm Anabledd a Dysgu Cymraeg
Krystal S. Lowe | Nia Gandhi | Emily Corby | Nadia Nur | Safyan Iqbal
Ymgynghorwyr Creadigol
Kizzy Crawford | Tom Bevan | Sarah Gregory | Amber Howells
Cefnogir gan The Place, Casnewydd, a Llenyddiaeth Cymru