Cartref digidol diwylliant Cymru.

Amdanom Ni

Cymuned

Menter gymdeithasol sy’n gweithio er budd economi, amgylchedd a chymunedau Dyffryn Ogwen

Eisiau gwirfoddoli? Mwy o wybodaeth yma.

Fel menter gymunedol rydym yn

  • Darparu gwasanaeth clercio i gynghorau cymuned yr ardal

  • Datblygu prosiectau adfywio cymunedol, economaidd ac amgylcheddol
  • Rheoli eiddo a datblygu prosiectau trosglwyddo asedau cymunedol
  • Cefnogi prosiectau sy’n creu cymuned iach, bywiog a chynaladwy 

Sefydlwyd Partneriaeth Ogwen yn 2013, a hynny trwy gydweithio arloesol gan Gynghorau Cymuned Bethesda, Llanllechid a Llandygai i ddarparu gwasanaeth clercio i’r 3 chyngor ac i ddatblygu prosiectau cymunedol.


Ers ein sefydlu, rydym wedi agor Swyddfa Ogwen a Siop Ogwen ar Stryd Fawr Bethesda, rheoli eiddo yn cynnwys fflatiau, busnesau a Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen. Rydym hefyd wedi datblygu prosiectau amgylcheddol llwyddiannus yn cynnwys sefydlu cynllun hydro cymunedol Ynni Ogwen.

Gweledigaeth Partneriaeth Ogwen dros y 3 mlynedd nesaf yw parhau creu cymuned a sefydliad cydnerth sy’n gweithredu’n arloesol er budd cymunedau Dyffryn Ogwen.

Byddwn yn gwneud hyn trwy:

  • Gryfhau seiliau’r sefydliad gan gynyddu’n cymhwysedd staffio i ddarparu gwasanaethau a phrosiectau o’r ansawdd uchaf
  • Gwarchod a chreu ffrydiau incwm newydd
  • Atgyfnerthu ein polisiau a gweithdrefnau mewnol i warchod ein staff a gwirfoddolwyr.
  • Blaenoriaethu prosiectau sy’n creu budd economaidd, amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol gyda ffocws ar drosglwyddo asedau cymunedol, prynu asedau newydd i greu incwm a phrosiectau sy’n gwneud ein cymuned yn fwy gwydn a chydnerth.

Bydd ein prosiectau yn creu budd cymunedol, dwylliannol, cymunedol ac economaidd i Ddyffryn Ogwen. Rydym yn gwneud hynny trwy ddatblygu prosiectau adfwyio mewn ymateb i anghenion ein cymuned ac er budd ein cymuned. Ein blaenoriaethau yw,

i) Sefydlu cynlluniau a mentrau dan berchnogaeth gymunedol megis Ynni Ogwen
ii) Datblygu a rhedeg prosiectau arloesol sy’n ymateb i anghenion penodol ein cymuned ac yn dod a budd amgylcheddol, economaidd, diwyllianol neu gymdeithasol
iii) Cymryd cyfleoedd i brynu a datblygu asedau cymunedol i’w cadw dan berchnogaeth leol ac er budd ein cymuned
iv) Datblygu prosiectau cynaladwy sy’n cefnogi yr economi gylchol a lleol
v) Cynnal prosiectau sy’n atal tlodi ac yn hybu llesiant ein cymuned

RHANNWCH