Pwy Ydw i Heddiw? – Ffion Pritchard

CelfFfilm

Mae Pwy Ydw i Heddiw yn ddogfen greadigol sydd yn dweud hanes prosiect greadigol sy’n anelu i godi hyder merched. Mae’r ffilm wedi ysbrydoli gan fy siwrnau efo hunan-bortreadau a hunan-hyder wrth i mi greu hunan-bortread anferth ar fy mhenblwydd yn 30 oed. Mae’r ffilm yn gofyn y cwestiwn; mewn byd sydd llawn rhwystrau i hunan werth merched, pa rôl sydd gan y celfyddydau i helpu i ni ail-hawlio y naratif ac ail-adailadu ein hyder?

 

Rhan o AmCam, gŵyl ffilmiau digidol Am.

RHANNWCH