Cartref digidol diwylliant Cymru.

AmCam: Cwestiynau Cyffredin

Beth yw’r amserlen ar gyfer cyflwyno fy ffilm?

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw Gorffennaf 21, 2025. Bydd Am yn ateb pob cais cyn dechrau Awst 2025. Bydd rhaid i’r ffilm gorffenedig gael ei chyflwyno i Am erbyn Hydref 31, 2025.

 

Beth fydd hyd fy ffilm?

Bydd rhaid i’r ffilm fod rhwng 10-15 munud.

 

Pa iaith fydd fy ffilm?

Dim ond ffilmiau iaith Gymraeg fydd yn gymwys.

 

Sut mae’r taliad yn gweithio?

Bydd £350 yn cael ei dalu i’r gwneuthurwr ffilm llwyddiannus drwy anfoneb pan maen nhw’n arwyddo’r cytundeb, a’r £150 sydd yn weddill pan mae’r ffilm yn cael ei chyflwyno.

 

Sut mae’r broses ddethol yn gweithio?

Bydd panel o staff Am acaelodau’r Bwrdd yn dewis pedair ffilm o’r holl geisiadau. Rydym yn awyddus i bwysleisio ein bod yn annog ceisiadau gan wneuthurwyr o bob lefel profiad, ac y byddwn yn dewis y ceisiadau llwyddiannus ar sail cysyniad y ffilm ac nid profiad y gwneuthurwr.

 

Fydd angen i mi isdeitlo fy ffilm?

Na. Bydd Am ychwanegu isdeitlau dwyieithiog i’ch ffilm ar ôl i ni ei dderbyn. Bydd Am yn talu am gostau’r gwaith yma.

 

Sut mae’r hawliau’n gweithio?

Bydd hawliau’r ffilm yn gorffwys gyda’r gwneuthurwr ffilm. Bydd angen i’r gwneuthurwyr llwyddiannus arwyddo cytundeb sydd yn cadarnhau bod yr holl hawliau ar gyfer bob elfen o gynnwys y ffilm wedi eu sicrhau ar gyfer darllediad ar Am, ac na fydd unrhyw hawlio yn digwydd gan neb arall. Bydd y gwneuthurwr ffilm hefyd yn ymrwymo i gynnwys unrhyw logos â ddarperir gan Am ynghyd ac unrhyw ‘credits’ â ddarperir gan Am.

 

Sut fydd fy ffilm yn cael ei ddarlledu?

Bydd y ffilm yn cael ei dangos gyntaf yn ddigidiol ar Am fel rhan o ŵyl ffilmiau ddigidol AmCam. Bydd y ffilm yn byw ar Am yn ecsgliwsif ar Am gyfnod o fis ac yna gall y gwneuthurwr ffilm ei rhannu fel y dymunir. Bydd Am hefyd yn trafod (ond nid yn ymrwymo i) ddangosiadau mewn sinemâu gyda’r gwneuthurwr ffilm.

 

Sut fydd fy ffilm yn cael ei hyrwyddo?

Bydd y ffilm yn cael ei hyrwyddo ar dudalen flaen AM, mewn ymgyrch farchnata estynedig ar gyfryngau cymdeithasol a chylchlythyr Am yn rhan o ŵyl ffilmiau AmCam. I’r diben hwn, bydd angen i’r gwneuthurwr ddarparu clip 30 eiliad o’r ffilm a ‘still’ o safon uchel o’r ffilm, yn ogystal â llun o’u hunain a bio byr. Disgwylir i hyn gael ei ddarparu gan y gwneuthurwr o fewn y £500. Disgwylir hefyd i’r gwneuthurwr ymrwymo lle yn bosib i gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd hyrwyddo.

 

Pa gwestiynau sydd yn y ffurflen gais?

Ynghyd â chwesitynau demograffeg a gwybodaeth cyswllt, mae’r cwestiynau canlynol yn rhan o’r ffurflen gais:

  1. Ydych chi’n wneuthurwr ffilm llawrydd?
  2. Eglurwch ychydig am eich profiad (200 o eiriau).
  3. Eglurwch syniad eich ffilm (300 o eiriau).

Gallwch wneud eich cais yma.

 

Ydw i’n gallu ymgeisio ar ffurf fideo neu sain?

Ydych. Os hoffwch chi wneud cais fideo neu sain, cysylltwch gyda lea@pyst.net am fwy o wybodaeth.

RHANNWCH