Ganed Rhian Tracey yn Abertawe a chafodd ei magu ar y gororau. Cafodd ei chytundeb cyhoeddi cyntaf yn 26 oed. Mae Rhian yn dysgu sawl diwrnod yr wythnos mewn adran AAA, gan weithio gyda myfyrwyr sydd â dyslecsia, dyspracsia, awtistiaeth, ADD ac anghenion dysgu ychwanegol eraill. Mae hi hefyd yn gwirfoddoli gyda Medical Detection Dogs, gan helpu i hyfforddi cŵn bach a fydd yn mynd ymlaen i fod yn gŵn cymorth. Cyhoeddwyd llyfr cyntaf Rhian i blant hŷnI, Spy: a Bletchley Park mystery, ym mis Mawrth 2023.