Cartref digidol diwylliant Cymru.

AM a Clwb LHDTC+ GISDA yn Cyhoeddi Partneriaeth | AM and GISDA’s LGBTQ+ Club’s New Partnership

Cymuned

Cyhoeddi Partneriaeth Strategol Platform AM a Clwb LHDTC+ GISDA

Heddiw mae platfform AM a Chlwb LHDTC+ GISDA yn falch o gyhoeddi partneriaeth strategol rhyngddynt am y tair blynedd nesaf.

Mae Clwb LHDTC+ GISDA (elusen wedi ei lleoli yng Nghaernarfon sydd yn ymbweru pobl ifanc drwy lety, llesiant, llais, cefnogaeth a chyfleodd) wedi bodoli ers 2017. Mae’n cynnig cefnogaeth i bobl ifanc sydd yn uniaethu fel LHDTC+ (Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol,Traws a Cwiar) ar ffurf clybiau wythnosol yng Nghaernarfon, Blaenau Ffestiniog, a Phwllheli sydd yn darparu lle diogel ac ymlaciol i aelodau allu mynegi eu hunain heb rwystr. Yn ddiweddar mae GISDA wedi sicrhau arian pęllach o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i barhau a thyfu y gefnogaeth hon dros y tair blynedd nesaf.

Mae AM yn blatfform digidol i hyrwyddo bywyd diwylliannol a chymunedol Cymru a sefydlwyd yn 2020. Wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru mae AM sydd yn wefan ac ap, wedi tyfu i adlewyrchu gweithgaredd dros 300 o bartneriaid creadigol/sianelau yn ogystal a chael ei ddefnyddio gan dros 282 000 o ddefnyddwyr dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Nod AM yn symud ymlaen yw sicrhau bod gweithgaredd diwylliannol cynhwysol a chymunedol Cymreig yn cael ei rannu a’i fwynhau yn ehangach a hynny mewn modd hygyrch a diogel.

Bydd partneriaeth AM a Chlwb LHDTC+ GISDA yn gweithio mewn amrywiol ffyrdd ond yn bennaf gyda’r amcan o rannu gwaith ysbrydoledig y Clwb LHDTC+ i gynulleidfa ehangach a defnyddio y cyfrwng digidol i ddogfennu ac mynegi profiadau’r aelodau mewn modd creadigol. Bydd aelodau y Clwb hefyd yn hyrwyddo defnydd o AM ac yn darparu adborth ar gyfeiriad a chynnwys AM er mwyn sicrhau bod tŵf AM yn parhau yn berthnasol i’w bywydau.

Dywedodd Siân Tomos, Prifweithredwraig GISDA:

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr cydweithio gydag AM ac yn ddiolchgar iawn o’r cyfle cyffrous hwn. Mae AM a GISDA yn rhannu’r un gwerthoedd yn arbennig mewn perthynas â phwysigrwydd y celfyddydau a’r iaith Gymraeg – dau elfen gwbwl greiddiol i GISDA wrth i ni gefnogi pobl ifanc. Rydym yn gobeithio bydd y bartneriaeth hwn yn agor drysau i gyfleon pellach a byddwn yn falch trafod hynny gydag unrhyw un. Diolch eto am y cyfle”

Ychwanegodd Ałun Llwyd, Prif Weithredwr AM “Mae’n fraint i allu cydweithio gyda’r Clwb i ddatblygu mynegiant ac ehangu cynulleidfa I waith ysbrydoledig ac allweddol y Clwb. Mae’r heriau y mae’r aelodau yn eu wynebu yn aruthrol ac mae’n bwysig bod y gefnogaeth yno ar bob lefel i’w gwaith ac hefyd er mwyn ysbrydoli pobol ifanc LHDTC+ eraill ar draws Cymru drwy rannu gwaith Clwb GISDA”

Bydd logo Clwb LHDTC+ GISDA I’w weld ar dudalen gartref AM o heddiw ymlaen a bydd ei gweithgaredd yn cael ei rannu o’u sianel newydd ar AM.

RHANNWCH