Cartref digidol diwylliant Cymru.

Alison Neighbour – Artist Preswyl 2025

Mae Alison yn artist aml-ddisgyblaethol ac enillydd gwobrau sy’n gweithio ar draws perfformiad, gosodiadau ac ymgysylltiad cymdeithasol. Mae ei gwaith yn ceisio ail-gysylltu pobl â’r byd naturiol drwy greu eiliadau defodol, teithiau trochi a gosodiadau rhyngweithiol. Mae’n ail-lunio gofodau ar gyfer perfformiad ac ymgysylltiad cymdeithasol gyda ffocws ar gynaladwyedd. Mae’r berthynas gorfforol a synhwyraidd rhwng cynulleidfa, lle a stori bob amser wrth wraidd ei hymarfer. Mae Alison fel arfer yn gweithio mewn mannau cyhoeddus, gan wahodd cyfarfyddiadau damweiniol ac yn cynnig y disgwyliedig o fewn yr arferol. Ymhlith ei gwaith diweddar mae perfformiadau a gosodiadau cyfranogol ar raddfa fawr gyda Creative Folkestone, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a rhan o gais Kent National Landscape & Pas de Calais UNESCO Geopark. Yn ddiweddar bu hefyd yn un o wyth Cymrawd Cymru’r Dyfodol, wedi’i chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Peak Cymru.

Preswyliad Cerflunio Ymatebol i’r Safle – 13–20 Medi 2025

Yn ystod ei chyfnod preswyl yn Ynys Enlli, bu Alison Neighbour yn datblygu cyfres o sgoriau cerdded ar gyfer yr ynys, gan gynnwys teithiau gyda’r nos a llwybrau i ymwelwyr dydd, fel templedi ar gyfer gwaith tebyg mewn lleoliadau eraill. Yn ogystal, parhaodd i ddatblygu ei harfer o “ddawnsio gyda chreigiau”, gan adeiladu ar waith blaenorol a wnaed ganddi ar yr ynys ym mis Mai, ac archwilio sut y gallai’r syniad hwn gwrdd ag unrhyw gynulleidfa. Yn ystod wythnos a oedd wedi’i harwain gan storm a ruodd o amgylch y stiwdio, crëwyd hefyd waith perfformiadol a cherfluniol newydd mewn ymateb i egni gwyllt yr hinsawdd.

Penderfynodd Alison archwilio beth allai’r gwynt ei gynnig iddi, i deimlo sut brofiad oedd cyfarch y storm wrth iddi gyrraedd yr ynys gyntaf. Yn ystod ei thaith, rhoddodd y llanw iddi “gôt” hardd o lawnddail môr, pum llinyn o un gwreiddyn gyda bysedd hir tryloyw ar bob un. Gofynnodd y deunydd hwn am gael ei wisgo a’i adfywio. Gyda’i gilydd, wynebodd y storm mewn gwyntoedd o 50mya, gan adael i’r gwynt arwain symudiadau mewn dawns rhwng y ddaear, y môr a’r awyr. Drwy gydol yr wythnos, trodd ei meddyliau at fregusrwydd ac amddiffynfa, natur fregus bodolaeth a’r lloches a gynigiodd yr ynys i bob ffurf o fywyd: o’r cennin prin i’r morloi bach, yr adar ifanc, a’r trigolion dynol. Yn ddiweddarach, crogwyd y gôt yn y Storws, yr adeilad bach ger yr harbwr, man lloches inni wrth aros am y cwch adref, yn llawn egni gwyllt o bosibiliadau.

www.alisonneighbourdesign.com 

@alisonneighbourart 

RHANNWCH