Dydd Sadwrn 25 Ionawr 2025
Drysau: 19:30
Dechrau: 20:00
CWRW, Caerfyrddin SA31 1BS
“Yr Alffa Fawreddog” – Michael Sheen. Mewn cytundeb llwyr â Mr Sheen, rydyn ni’n edrych ymlaen at ddod ag Alffa i CWRW ym mis Ionawr, gyda chefnogaeth Hyll a Ffatri Jam!
Mae Alffa yn fand dau aelod a gafodd lwyddiant ar unwaith yng Nghymru a thu hwnt gyda’i sengl gyntaf a gynhyrchwyd gan Recordiau Côsh. Hyrddiwyd y sengl hon i bedwar ban y byd gan restrau chwarae roc mwyaf Spotify. ‘Gwenwyn’ oedd y gân Gymraeg gyntaf i gael ei ffrydio miliwn o weithiau ar y platfform. Ac ers hynny, mae’r band wedi cael llwyddiannau tebyg gyda’i senglau dilynol, sef ‘Pla’, ‘Full Moon Vulture’ a ‘Black Angel’ – y prif drac ar albwm cyntaf y band.
“Dydy Alffa byth yn siomi. Mae cerddoriaeth y band yn wych, mae’n fand hoffus, ac fel un sy’n malio am safon, does neb yn ei wneud yn well” – Keep Walking Music.
Mae’r band wedi syfrdanu torfeydd gyda s?n mawr sydd wedi plesio gwahanol fathau o wrandawyr yng ngwyliau Great Escape a Liverpool Sound City. Dyw Dion Jones (Gitâr) a Siôn Land (Drymiau) erioed wedi aros i ddrysau ymagor iddyn nhw. Yn hytrach, mae’r ddau wedi mynd ati i falu drysau a chreu eu llwybr eu hunain fel band.
//
Band o Gaerdydd yw Hyll sy’n enwog am ei s?n melancolaidd a’i eiriau deallus, sy’n cael eu canu ym mamiaith aelodau’r band, sef Cymraeg. Mae llais unigryw Iwan yn sôn am fagwraeth yng Nghaerdydd, gyda geiriau sy’n ffraeth a thyner yn aml. Mae s?n y band wedi cael ei ddylanwadu gan artistiaid fel Pavement, Soccer Mommy a Pixies. Dylanwad arall yw geiriau meddylgar unigolion fel Courtney Barnett, King Krule a Bill Ryder-Jones.
//
Dehonglwyr newydd Roc Caled Cymraeg o Ynys Môn a Chaernarfon yw Ffatri Jam, band sydd wedi cael ei glywed ar BBC Radio 1, Planet Rock a mannau eraill. Cafodd sengl y band, ‘Geiriau Ffug’, ei rhyddhau’n wreiddiol ar Ddydd Miwsig Cymru a’i darlledu ar BBC Radio 1 lle cafodd ei chydnabod fel un o Synau Gorau 2022 BBC Introducing.