Cartref digidol diwylliant Cymru.

Alex Wharton is the next Children’s Laureate Wales

Llenyddiaeth

Alex Wharton yw’r Children’s Laureate Wales nesaf

“Crefftwr geiriau” a bardd sy’n“eirioli dros greadigrwydd plant” gyda “rhywbeth i’w ddweud – a pharodrwydd i wrando” yw’r nesaf i ymgymryd â’r rôl arbennig hon.

Ar ddydd Gwener 2 Mehefin ar lwyfan The Hive yng Ngŵyl y Gelli, cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru mai’r bardd, Alex Wharton, fydd yn camu i esgidiau’r Children’s Laureate Wales o fis Medi eleni, gan gymryd yr awenau oddi-wrth y deiliad presennol, Connor Allen.

Mae’r Children’s Laureate Wales yn rôl llysgenhadol genedlaethol sy’n anelu at ysbrydoli a grymuso plant a phobl ifanc ledled Cymru trwy lenyddiaeth. Wedi’i sefydlu yn 2019, fe’i dyfernir bob dwy flynedd i awdur dawnus a gweledigaethol o Gymru sy’n frwd dros sicrhau bod mwy o blant a phobl ifanc yn darganfod y llawenydd a’r buddion lles o ymgysylltu â llenyddiaeth.

Am Alex Wharton

Mae Alex Wharton yn fardd a pherfformiwr arobryn sy’n ysgrifennu ar gyfer plant ac oedolion. Cyrhaeddodd ei gasgliad barddoniaeth cyntaf ar gyfer plant Daydreams and Jellybeans, restr fer sawl gwobr, ac mae ganddo ddwy gyfrol ar y gweill gyda Firefly Press. Mae wedi ymddangos mewn gwyliau celfyddydol niferus gan gynnwys Gŵyl y Gelli a Gŵyl Lyfrau Ryngwladol Caeredin.

Fel y Children’s Laureate Wales, bydd Alex yn gwahodd pobl ifanc i archwilio hyd a hwyl geiriau, gan ddysgu sut y gall y mynegiant artistig a chreadigol hwn wella’r ffordd yr ydym yn byw, yn teimlo, yn dychmygu, yn creu, ac yn cyfathrebu. Mae ganddo ddiddordeb hefyd mewn cyfuno barddoniaeth gyda disgyblaethau celfyddydol eraill; cydweithio gyda a rhannu gweithiau awduron eraill; a thaflu goleuni ar gyfoeth natur a’r byd o’n cwmpas.

Dywedodd Alex Wharton, Children’s Laureate Wales 2023-2025: “Rydw i yma i rannu grym dwfn a rhyfeddol barddoniaeth gyda phlant a phobl ifanc Cymru. Mae creu crefft o eiriau yn iaith arbennig. Mae hi yno i ni ei defnyddio, i gyfoethogi ein bywydau a’r ffordd rydyn ni’n archwilio ein hemosiynau, ein profiadau, ein cysylltiadau daearol ac ysbrydol a’n dychymyg. Mae bod yn fardd llawryfog yn draddodiad hynod arbennig ac mae ei dderbyn yn hynod anrhydeddus.”

Ar ddydd Iau 1 Mehefin, cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru mai’r bardd a dramodydd Nia Morais fydd y Bardd Plant Cymru nesaf ar gyfer 2023-25, a hynny ar Faes Eisteddfod yr Urdd Llanymddyfri. Bydd y ddau fardd yn dechrau yn eu rolau o fis Medi am gyfnod o ddwy flynedd.

Mae’r cyhoeddiadau hyn yn benllanw proses recriwtio a gynhaliwyd gan Llenyddiaeth Cymru. Gwahoddwyd beirdd i wneud cais am rolau Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate Wales, a cynhaliwyd cyfweliadau a gweithdai prawf gyda rhestr fer o ymgeiswyr.

Roedd panel dethol y Children’s Laureate Wales yn cynnwys yr awdur cyntaf i ymgymryd â’r rôl, Eloise Williams a’r awdur, athro ac ymchwilydd, Darren Chetty, ochr yn ochr â dau aelod o staff Llenyddiaeth Cymru. Fel rhan o’r broses, cynhaliodd y beirdd ar y rhestr fer hefyd weithdy prawf gyda disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Gymunedol Tonyrefail, a bu’r plant eu hunain yn rhannu eu barn am y gweithdy a’r bardd.

Dywedodd Claire Furlong, Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru: “Mae cyflwyno plant a phobl ifanc i ddarllen ac ysgrifennu creadigol yn gynnar yn eu bywydau yn gallu plannu hedyn o gariad gydol-oes at lenyddiaeth. Mae’r prosiectau Bardd Plant Cymru a’r Children’s Laureate Wales yn cyflwyno pobl ifanc i awduron cyffrous, talentog ac ysbrydoledig. Mae gan Alex a Nia ill dau weledigaeth glir ar gyfer eu cyfnod, ac edrychwn ymlaen yn fawr at weld y llwybrau y byddant yn eu dilyn. Nid yn unig y byddant yn ffigyrau y bydd plant yn eu hedmygu, byddant hefyd yn cyflwyno cariad at eiriau, a dulliau o’u mwynhau a’u defnyddio i fynegi eu hunain yn greadigol yn rhoddion iddynt.”

Yn ôl Eloise Williams, Aelod Panel Dethol a chyn-ddeiliad y rôl: ”Roedd yn fraint enfawr bod y cyntaf i ymgymryd â rôl Children’s Laureate Wales a rwyf wrth fy modd bod Alex Wharton nawr camu mewn i’r rôl yn dilyn gwaith arbennig Connor Allen. Mae pobl ifanc Cymru yn haeddu cael eu cydnabod a’u dathlu, a rwy’n ffyddiog y bydd Alex yn codi eu lleisiau a’u galluogi I fod yn rhan annatod o lenyddiaeth Cymru.”

Dywedodd Darren Chetty, Aelod Panel Dethol: “Mae Alex Wharton yn grefftwr geiriau ac yn addysgwr hynod dalentog, sy’n eirioli dros greadigrwydd plant. Mae ganddo rywbeth i’w ddweud – a pharodrwydd i wrando. Rwy’n ysu i weld yr hyn fydd ganddo i’w gynnig fel Children’s Laureate Wales!’”

RHANNWCH