Canwr/Cyfansoddwr yn wreiddiol o Bwllheli – ymddangosodd Al a’i gyfaill oes Arwel (Gildas) am y tro gyntaf ar ein sgrins teledu yn canu ‘Llosgi’ ar Can i Gymru. Ers hynnu ma Al wedi rhyddhau 5 albwm yn y Gymraeg. Yn ogystal â’i albwms yn y Gymraeg mae Al wedi rhyddhau 2 albwm Saesneg – ‘In the Wake’ a chafodd ei enwebu ar gyfer y ‘Wobr Gerddoriaeth Gymreig’ a Battles ble gafodd y sengl ‘Make a Little Room’ ei ychwanegu i’r BBC Radio 2 ‘playlist’. Mae Al wedi ennill camoliaeth a chefnogaeth gan DJs adnabyddus fel Bob Harris, Dermot O’Leary a Janice Long.
Fe ryddhawyd Al cân Nadoligaidd wedi’i seilio ar waith Dylan Thomas o’r enw ‘A Child’s Christmas in Wales’. Fe lwyddodd Al i gael y sengl ar y BBC Radio 2 ‘playlist’ a dyma fu’r gân gyntaf erioed i gynnwys y Gymraeg i ymddangos ar y ‘playlist’.
Yn ogystal a’i waith unigol mae Al hefyd wedi bod yn rhan o’r ddeuawd llwyddiannus Lewis & Leigh efo Alva Leigh o Mississippi a GLASLYN prosiect efo’r cynhyrchydd o Fryste, Kayla Painter.