Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cerddoriaeth

Mae Aisha Kigs yn canu ac yn cyfansoddi ac yn byw yng Nghaerdydd. Bu Aisha yn gysylltiedig â rhaglen cymdeithas TuWezeshe Akina Dada yn 2017 – 2018. Hi hefyd oedd cyfarwyddwr creadigol arddangosfa G.I.R.L. lle curadodd ac arddangosodd artistiaid du ifanc Cymru trwy thema unigoliaeth fenywaidd ddu.

Trwy Madaraja, mae Aisha eisiau cyfarwyddo ei cherddoriaeth ei hun fel canolbwynt, gan greu byd pedwar dimensiwn yn dathlu harddwch a chymhlethdod benyweidd-dra du. Ei bwriad yw gwneud hyn gydag EP gweledol fydd yn cynnwys 5-6 chân. Mae ei chyfansoddi wedi ei ysbrydoli gan ei phrofiadau personol fel menyw ddu croen tywyll, wedi ei magu mewn amgylchedd lle’r oedd yn teimlo ei bod yn gorfod amddiffyn ei benyweidd-dra ei hun yn erbyn safonau harddwch sydd yn canolbwyntio ar Ewrop, gyda’r nod o ddadwladychu trosiadau menywod du (y Mammy, y Saffir, y Jesebel, a menywod du cryf) a’u troi ar eu pennau.

RHANNWCH