Cartref digidol diwylliant Cymru.

Adolygiad Y Cymro: Cat gan Megan Angharad Hunter gyda Maisie Awen

Llenyddiaeth

Dw i wedi dechrau ar gyfres Y Pump y ffordd groes, drwy gychwyn ar ddiwedd y daith, ar ddiwedd blwyddyn ysgol.

Cat yw’r bumed nofel yn y gyfres arloesol hon o lyfrau ar gyfer pobl ifanc sy’n dilyn pum cymeriad ym Mlwyddyn 11 Ysgol Gyfun Llwyd. Fel person yn fy ugeiniau hwyr (sydd yn ymddwyn yn agosach at rywun yn ei arddegau cynnar) llyncais y nofel hon ymhen dim.

Mae 2021 wedi bod yn chwip o flwyddyn i Megan Hunter, wedi iddi gyhoeddi tu ôl i’r awyr, enillydd categori ffuglen Llyfr y Flwyddyn ac ennill prif wobr Llyfr y Flwyddyn. Ydi, mae llais dihafal yr awdur yn disgleirio yn y nofel ond mae ’na enw pwysig arall sydd wedi bod yn rhan annatod o greu’r nofel – Maisie Awen. Er mai dyma’r nofel gyntaf i Maisie weithio arni mae hithau hefyd yn awdur ffres ei llais sydd yn ysgrifennu straeon byrion a barddoniaeth, ac wedi bod yn rhan o griw Sgwennwyr Newydd Cwmni Frân Wen eleni.

Mae nofel Cat yn rhan o bum nofel sydd ar gael mewn set focs, ac mae pump awdur yn eu hugeiniau yn archwilio profiadau pob prif gymeriad yn eu nofel, a’r cyfan wedi’i greu ar y cyd gyda phump awdur ifanc. Er ei bod yn rhan o gyfres mae Cat yn sicr yn medru sefyll ar ei thraed ei hun yn ogystal.

Mae’r nofelau yn archwilio bob math o brofiadau ym mywydau Cymry ifanc heddiw, yn eu mysg yn y gyfres hon mae rhywedd, crefydd, anableddau, hil a iechyd meddwl. Rôl y cyd-awduron oedd sicrhau bod y straeon yn ddilys a thriw i’w profiadau nhw. Os ydym am i’r byd cyhoeddi Cymraeg a Chymreig fod yn fwy cynhwysol a chynrychioladol o holl brofiadau pobl Cymru, tybed ai dyma’r ffordd ymlaen i wireddu hynny? Mae’r prosiect hwn wedi bod yn gam cyntaf i’r awduron ifanc yn y byd cyhoeddi, a siawns mai’r cam nesaf yw meithrin eu talent fel eu bod yn medru mynd ymlaen i gyhoeddi ar liwt eu hunain yn y dyfodol.

Mae’r pum ffrind yma wedi dod at ei gilydd am eu bod nhw’n teimlo eu bod wedi eu arallu. Yn achos Cat, mae hi’n hilgymysg ac mae cymlethdodau ei hil yn cael ei archwilio mor naturiol, ond eto mor grafog – gydag anwybodaeth cymeriadau eraill ymysg y ffyrdd gorau i amlygu hyn. Mae’n flwyddyn heriol i Cat wedi iddi gael diagnosis o salwch difrifol, a gwelwn sut mae’n cael cefnogaeth a chyfeillgarwch gan ei gwir ffrindiau yn hytrach na’r Slayers – y genod poblogaidd y mae Cat yn cael ei dadrithio ganddynt. Yn ogystal â’r triniaethau anodd a sut mae hi a’i theulu’n dygymod â’i salwch rydym hefyd yn cael ein taflu i fyd wigiau, colur, Lizzo, Group Chats a TikTok. Mae mwy i’w stori na rhywun sy’n bod yn ‘ddewr a brwydro’ ei chyflwr. Mae Cat yn gwrthod y stereoteip hwnnw’n llwyr, ac yn hytrach yn mynnu bod mwy i’w stori hi.

Elfen arall o’r nofel sydd i’w chymeradwyo yw digwyddiad annifyr y mae Cat yn ei brofi mewn parti. Mae rhybudd cynnwys ar y nofel oherwydd hyn (sy’n rhywbeth i’w groesawu a’i normaleddio wrth drafod themâu o’r fath) ond dwi’n credu y gall darllen nofel fel Cat wneud llawer mwy o ddaioni i bobl ifanc mewn ysgol uwchradd yn hytrach na gwers addysg rhyw dienaid, yn enwedig wrth ddangos yn union beth yw cydsynio i rywbeth.

Mae wir yn gyfres wych ar gyfer pobl ifanc, y nofelau yn ddigon byr (gan gofio sut roeddwn i’n diflasu ar nofelau slawer dydd!) ond eto’n teimlo’n swmpus gan fod pum rhan o’r stori. Mewn tref lle mae pob un ohonynt yn meddwl nad ydynt yn perthyn, maent yn ffitio efo’i gilydd fel jig-so amherffaith, ac ar ddiwedd y dydd yn sylweddoli eu bod nhw yn perthyn.

Felly dw i am fynd yn ôl i ddechrau’r flwyddyn ysgol a gweithio fy ffordd drwy fywydau’r Pump yma, a dychwelyd atynt eto, ac eto.

RHANNWCH