Elgan Rhys a Tomos Jones yw awduron Tim a dyma’r llyfr cyntaf yng nghyfres newydd ‘Y Pump’ o wasg Y Lolfa. Mae’r ddau wedi cydweithio i greu nofel bwerus a ffres sy’n delio gyda phrofiadau arddegwr sy’n teimlo nad yw’n perthyn mewn cymdeithas.
Tynnodd glawr deniadol y cynllunydd Steffan Dafydd fy sylw yn syth, gyda’i liw oren llachar ac amlinelliad o ben Tim yn fwrlwm o ffrwydradau tân gwyllt. Credaf fod y clawr yn ffitio’n berffaith i naratif y nofel, gan awgrymu’r rhwystredigaeth sy’n bodoli ym meddwl y prif gymeriad.
Nofel ‘coming of age’ yw Tim a chawn ein tywys i fyd bachgen 16 oed awtistig wrth iddo geisio gwneud ffrindiau yn ei ysgol newydd. Mae’n nofel sy’n denu’r darllenwr i chwerthin gydag adegau o hiwmor ffraeth, ond yna yn sydyn, cawn ein cyffwrdd gan emosiwn dwys a chael ein llorio gan sefyllfa fregus y bachgen ifanc yma.
Mae Tim yn cymryd pob dim yn llythrennol, ac mae’r awduron yn llwyddo i gyfleu hyn yn gelfydd yn y nofel. Mae hon yn nofel gyfoethog o ran iaith, a chefais fy swyno gan y ffordd mae emosiynau a’r ffordd mae Tim yn gweld y byd yn cael eu cyfleu trwy liwiau gan yr awduron, ‘Mae Mam yn chwerthin oren tawel’ a ‘gwenu glas golau’. Gwnaeth y ffaith fod Tim yn dwlu ar gomics a byd cymeriadau Marvel apelio ataf yn syth gan fod gen i dipyn o ddiddordeb yn y maes yma hefyd.