Cyfres o bum nofel am bum ffrind gan pum awdur a chyd-awdur ifanc yw Y Pump sy’n dathlu amrywiaeth Cymru heddiw, gan archwilio pynciau fel hil, rhyw ac iechyd meddwl.
Cadwch lygad allan am sgyrsiau ac adolygiadau ar #LyshCymru yn ddyddiol yr wythnos yma. Dyma roi sylw i Robyn heddiw.
Dyma nofel sy’n dangos y dylai pobl traws gael eu “cynrychioli, eu derbyn a’u parchu” yn ein llenyddiaeth.
Adolygiad gan Bronwen Clatworthy.
Mae’r nofel hon yn rhoi cipolwg i mewn i fywyd o fewn byd Y Pump – Robyn, person traws yn benodol, gyda’u ffrindiau Tim, Tami, Aniq a Cat. Yn ogystal â’u hangerdd tuag at ddarganfod eu hun, mae gan y cymeriad ddawn am farddoni. Cawn weld hyn trwy meddyliau Robyn, wrth iddyn nhw gyfansoddi cynganeddu, cyn perfformio ar ddiwedd y nofel – i gyd wrth iddyn nhw ddarganfod eu gwir rhywedd.
Mae gan Robyn fywyd tebyg iawn i lawer o bobl yn eu harddegau. Yfed, ffrindiau, fflings a crushes. Ond mae eu cyfrinach yn taflu elfen llawer mwy cymhleth i mewn. Mae pob sialens mae arddegwyr yn wynebu yn anoddach i Robyn, gan fod neb yn gwybod y gwir Robyn. Dilynwn ni eu siwrnai nhw o ddod allan i’w ffrindiau, ac i ddechrau dangos eu lliwiau i’r byd. Gwelwn yn glir y gymuned gefnogol sydd i’w gael yn y byd LHDT+, wrth hefyd weld y rhagfarn a chreulondeb maent yn gallu wynebu. Er enghraifft, ar ôl i Robyn sefyll arholiad, maen nhw’n cael eu dyrnu am wisgo siôl ac am fod yn hoyw. Yna, pan mae’r bwlis yn darganfod cerdd ar eu ffôn am fod yn traws, mae’n cael eu dyrnu hyd yn oed yn fwy. Roedd yr olygfa hon yn un bwerus dros ben, ac roedd yr awduron wir yn g’neud i fi, fel darllenydd, gydymdeimlo gyda Robyn, ac i gofio pa mor greulon mae bywyd ysgol yn gallu bod. Yn anffodus, mae rhai pobl yn byw mewn ofn hyd heddiw oherwydd eu bod yn traws, ond mae’r awduron wedi rhoi hyder i ddarllenwyr, gan gyflwyno’r gymuned LHDT+ drwy stori Robyn.