Cartref digidol diwylliant Cymru.

Adolygiad o’r Archif (1986): Cyfrinach Betsan Morgan gan Gwenno Hywyn

Llenyddiaeth

Wrthi’n sortio’r silff lyfra Cymraeg yn y dosbarth oeddwn i, pan ddes i ar draws un o glasuron Cyfres Corryn doeddwn i heb weld ers pan o’n i yn yr ysgol fy hun – Cyfrinach Betsan Morgan gan Gwenno Hywyn. Mae’n gywilydd gen i ddeud fy mod i wedi cysidro ei daflu am amrantiad, ond mi ddes i at fy nghoed reit handi, ac mi gafodd o aros, a diolch byth am hynny.

Efallai fod y clawr braidd yn hen ffasiwn, ond mae’r stori lawn cystal heddiw ag oedd hi ym 1986! A dweud y gwir, yr unig beth sy’n dyddio’r llyfr ydi’r mullets sydd gan yr oedolion (a ma heina’n due am comeback meddan nhw!)

Dyma stori ddirgel gyda dipyn o dwist ffantasiol dda iawn gan y diweddar Gwenno Hywyn, ac er y dywedir ei fod ar gyfer yr arddegau, dwi’n meddwl ei fod o’n champion i’r grŵp oedran 9-11. Yn y stori, dydi Betsan ddim yn edrych ymlaen at fynd ar drip preswyl i Blas yr Hydd. Mae ei ffrind gorau, Lowri, wedi jibio, sy’n golygu fod rhaid iddi fynd ar ei phen ei hun i ganol llwyth o blant dieithr. OMB alla i ddim dychmygu dim byd gwaeth!

Yn fuan ar ôl iddi gyrraedd Plas yr Hydd, mae pethau go ryfedd yn dechrau digwydd, ac mae fel petai Betsan yn gallu teithio’n ôl drwy amser, neu weld ôl-fflachiau o’r gorffennol. Sut mae hyn i gyd yn cysylltu â’r gadwyn arbennig gafodd hi gan ei Mam? Beth yw arwyddocâd y llythrennau E.W. arni? A tybed fydd Betsan yn gallu datrys dirgelwch trysor coll Plas yr Hydd? Bydd rhaid i chi fynd i chwilio am gopi o’r llyfr i gael gwybod y gyfrinach.

Mi ges innau brofiad o deithio’n ôl trwy amser wrth ddarllen y llyfr. Roedd y stori’n fy atgoffa o fynd ar drip ysgol i Glan Llyn – y cyffro mawr ar noson y disgo, y genod yn glamio a’r bechgyn yn dangos eu hunain gyda’u moves ar y dancefloor.

Dyma stori sy’n symud ar garlam, ac mae’r dirgelwch yn cynnal ein diddordeb drwy’r nofel. Roedd yr elfennau ffantasi yn cryfhau’r stori ac yn ychwanegu elfen o antur. Nofel gymharol fer ydi hon. Mae’r iaith a ddefnyddir yn hawdd i’w darllen ac yn grêt os am fwynhau stori heb orfod poeni am eiriau anodd. Mae’n amlwg fod yr awdur yn feistr ar sgwennu stori sy’n cydio heb or-gymhlethu’r plot.

Fel trysor coll Plas yr Hydd, mae’n chwith gen i feddwl am gopïau o’r llyfr yma’n cuddio mewn hen gypyrddau, a neb yn cofio amdanyn nhw. Ewch da chi i chwilota am gopi! Yn anffodus, mae’r nofel wedi bod allan o brint ers blynyddoedd, ond gyda’r prinder presennol o lyfrau da ar gyfer yr oedran 7-11, tybed a fyddai modd iddi gael ei hail-gyhoeddi?

RHANNWCH