Dyma’r ail lyfr yng nghyfres Chwedlau’r Copa Coch gan Elidir Jones a Huw Aaron, sy’n ddilyniant teilwng i Yr Horwth. Mae llyfrau ffantasi yn y Gymraeg wastad wedi bod yn dipyn bach o niche. Heblaw am drioleg diweddar Y Melanai (sy’n blwmin gwych gyda llaw) doedd fawr o sôn am ffantasi Cymraeg yn gyffredinol. Ond yn 2019, yn fuan ar ôl ei gyhoeddi, fe aeth Yr Horwth ymlaen i ennill categori newydd sbon danlli yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn, ac fe roddodd y genre ffantasi yn ôl ar y map a’i gyflwyno i genhedlaeth newydd. No pressure ar gyfer y dilyniant felly!
O’r diwedd, mae llyfrau ffantasi yn cael cydnabyddiaeth haeddiannol, ac yn dechrau cael eu gweld fel llyfrau o safon (nid jest fel pethau sy’n apelio i nerds yn unig). Mae nhw hyd yn oed yn gallu ennill gwobrau!
Dydi’r nofel ddim yn gwastraffu amser, ac fe gawn ein hail-gyflwyno i’r anturiaethwyr dewr mewn dim o amser sy’n caniatáu i ni neidio i mewn i’r antur nesaf yn reit handi. Os dydach chi heb ddarllen Yr Horwth, mi allwch chi fwynhau Melltith yn y Mynydd fel nofel ar ei phen ei hun, ond wir i chi, mi faswn i’n eich cynghori i’w darllen nhw yn eu trefn. Mae o jest yn gwneud mwy o synnwyr!
Orig, perchennog y dafarn yw adroddwr y stori, a thrwyddo fo y down i wybod am antur fawr nesaf ein ffrindiau, Nad, Sara, Pietro a Heti wrth iddo adrodd hanesion y gorffennol wrth ei westai, Ffion. Ia, distaw iawn fu bywyd ein harwyr ers trechu bwystfil y nofel gyntaf, ond yn ffodus iawn i ni’r darllenwyr, mae pethau rhyfedd iawn yn digwydd o amgylch y Copa Coch o hyd… (mi fasa happy ever after yn reit ddiflas basa!).
Fe wyddwn o’r nofel gyntaf fod ’na ysbrydion dychrynllyd yn trigo yng nghrombil y Copa Coch, ond mae rhywbeth yn eu denu allan o’r mynydd sy’n fygythiad enbyd i’r pentref newydd. Does dim dewis gan ein hanturiaethwyr dewr ond mynd i chwilio am atebion, ond dwi’m yn meddwl fod neb wedi paratoi ar gyfer yr hyn sy’n eu disgwyl o fewn y mynydd melltigedig…
Dyma nofel sy’n dywyllach ac yn aeddfetach na’i rhagflaenydd, ond sy’n dal i gynnwys yr un hiwmor rhwng y cymeriadau sy’n diffinio’r gyfres. Yn wir, mae darnau digon creepy, felly cofiwch hynny os ydach chi’n bwriadu darllen mewn golau gwan! Dyma ddarn sy’n fy atgoffa o ffilm The Exorcist:
“Trodd tua’r teithwyr, ac esgyrn a chyhyrau ei wddw’n gwichian ac yn cracio wrth iddo wneud. Edrychodd o’i gwmpas yn feddw, ei lygaid yn troi mewn cylchoedd, fel petai wedi anghofio sut i symud. Tynnodd ei hun ar ei bedwar yn herciog, gan gropian yn frawychus o gyflym…”
Mae ’na dipyn go lew o brif gymeriadau, ac er fy mod yn hoff o sawl un, Heti yw fy ffefryn – mae ei chryfder, ei nerth a’i dewder yn ysbrydoledig ac mae ganddi serious Xena: Warrior Princess vibes. Er ei bod hi braidd yn fyrbwyll, un peth sy’n sicr, bydd cranc-fwystfilod arallfydol yn meddwl ddwywaith cyn dadlau â Heti a’i styllen ffyddlon (mae beth mae hon yn gallu ei wneud efo darn o bren a hoelen yn impressive!).
Mewn nofelau o’r fath mae’n rhaid treulio cryn dipyn o amser yn creu bydoedd, ac yn aml iawn mae ganddyn nhw nifer o gymeriadau a lleoliadau sy’n gallu bod yn ddryslyd ar adegau. Dyma ble mae lluniau Huw Aaron yn help mawr; trwy greu darlun yn y meddwl, ond gan adael digon i’r dychymyg hefyd. Er hyn, roedd rhaid i mi ail ddarllen ambell ddarn i gael gwell syniad o beth oedd yn mynd ymlaen. Yn sicr, mae’r syniad o stori o fewn stori o fewn stori yn uchelgeisiol ( a does dim o’i le â hynny) ond mae ganddo’r potensial i ddrysu rhai darllenwyr.
Mae Elidir Jones yn nabod y genre ffantasi/antur/sci-fi yn dda iawn; mae hynny’n amlwg. Dyma awdur sydd â diddordeb personol yn y maes ac felly yn gwybod beth sy’n gwneud corcar o nofel. I mi, cynhwysion stori dda ydi dim gormod o ‘fflwff’ emosiynol a mwy o bwyslais ar y plot a’r ‘action’. Tydi’r nofel ddim yn siomi o ran hynny, ac mae’r stori’n mynd ar garlam wrth adeiladu tuag at y frwydr fawr yn y rhan olaf. Erbyn act ola’r nofel roedd hi’n amhosib i’w roi i lawr! (dwi’n gwbod bod ni adolygwyr yn dweud hyn yn aml, ond mae’n wir).
Er fy mod i’n ffafrio plot cyffrous dros waith cymeriadu dwys, tydi hynny ddim i ddweud nad yw llyfrau ffantasi yn gallu gwneud ‘cymeriadau’ yn iawn hefyd. Er enghraifft, mae un o’r cymeriadau newydd, Mantha, yn ychwanegiad diddorol dros ben i’r gyfres a bydd gen i ddiddordeb mawr clywed mwy am ei chefndir hi.
Fel self-confessed geek, dwi’n meddwl mai’r ffordd fwyaf priodol i mi grynhoi fy nheimladau yw trwy ddefnyddio Star Wars. Dwi’n meddwl ei bod hi’n deg dweud fod pawb yn gwybod pa mor anhygoel ac arloesol oedd y ffilm gyntaf, A New Hope, pan gafodd ei ryddhau ym 1977. Ond gofynnwch chi i unrhyw hardcore fan, ac fe ddwedan nhw fod yr ail ffilm, The Empire Strikes Back yn ffilm llawer gwell. Dwi’n teimlo fod hyn yn wir am Melltith yn y Mynydd – llyfr sydd wedi adeiladu a chryfhau ar yr hyn a gychwynnwyd yn Yr Horwth, ac os fydd pethau’n parhau fel hyn, bydd y nesaf yn well fyth dwi’n siŵr!