Ganed Sophie Buchaillard ym Mharis, ac mae hi wedi teithio Ewrop, Asia, yr Unol Daleithiau a’r Affrig, cyn setlo yn Ne Cymru ddau ddegawd yn ôl.
Mae hi’n sgwennu ffuglen gyfoes sydd wedi ei ysbrydoli gan ei theithio a’i symudiadau. Cyfrannodd at An Open Door: New Travel Writing for A Precarious Century (Parthian, 2022), casgliad o ysgrifennu teithio a olygwyd gan Steven Lovatt. Mae ei straeon byrion a’i thraethodau wedi ymddangos mewn cylchgronau llenyddol amrywiol a phapurau Newydd. Dyma ei nofel gyntaf.