Cartref digidol diwylliant Cymru.

About the Author: Darren Chetty

Llenyddiaeth

Ganed Darren Chetty yn Abertawe ac mae’n byw yn Llundain ar hyn o bryd. Mae’n ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Bu’n dysgu mewn ysgolion cynradd am 20 mlynedd. Yn 2022, cyd-olygodd Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales (Repeater) a rhifyn arbennig o Wasafiri dan y teitl ‘Reimaging Education’. Mae’n gyfrannwr i’r llyfr poblogaidd, The Good Immigrant (Unbound). Mae Darren yn gyd-awdur What Is Masculinity? Why Does It Matter? And Other Big Questions (Wayland) a How To Disagree: Negotiating Difference in a Divided World (Quarto) a chyd-olygydd Critical Philosophy of Race and Education (Routledge). Mae Darren yn ysgrifennu, gyda Karen Sands O’Connor, colofn reolaidd i Books for Keeps sy’n archwilio cymeriadau o leiafrifoedd hiliol mewn llenyddiaeth plant, o’r enw Beyond the Secret Garden.

RHANNWCH