Mae A Marginal Sea wedi ei ysgrifennu o olygfa Ynys Môn, sydd ar gyrion Cymru ac mewn môr ymylol o Gefnfor yr Iwerydd – dychmygir yr ynys yma fel safle o gysylltiad archeolegol â lleoedd a hanesion eraill, lle mae gofodau breuddwyd a thechnoleg ddigidol wedi’u cydblethu â’r bob dydd. Mae A Marginal Sea yn ddyfeisgar, yn gyffrous yn ei seinweddau ac yn tynnu ein sylw at arallrwydd, mewn iaith, ac yn y byd anifeiliaid a natur.