Cartref digidol diwylliant Cymru.

60 Second Stories: Swansea

Mae 12 o ffilmiau byrion sy’n adrodd straeon o Abertawe mewn 60 eiliad ar gael i’w ffrydio am ddim gan Ffilm Cymru Wales.

Cafodd y casgliad amrywiol o ffilmiau byrion 60 eiliad eu creu gan bobl greadigol Abertawe a ddefnyddiodd eu ffôn clyfar i rannu eu profiadau nhw o’r ddinas gan gyfuno eu sgiliau ysgrifennu, eu sgiliau ffotograffiaeth, eu sgiliau ffilmio a’u sgiliau cerddorol. Dyma gasgliad o straeon gan leisiau amrywiol sy’n trafod pob math o bynciau, gan gynnwys arwyr hanesyddol y gymuned a gweledigaethau radical a chadarnhaol am ddyfodol cynaliadwy.

Cafodd y rhaglen sgiliau creadigol hon gan Ffilm Cymru ei harwain gan Charlotte James, sy’n wneuthurwr ffilmiau o Gymru. Cafodd ei ffilm fer gyntaf, Doss House, ei chynhyrchu gan Maisie Williams fel rhan o Gynllun Beacons Ffilm Cymru. Yn ystod y gweithdai yng Ngholeg Gŵyr, bu Emma Beynon, sy’n Diwtor Ysgrifennu Creadigol, yn helpu cyfranogwyr i ddatblygu eu sgriptiau a daeth Jamie Panton, ein Tiwtor Cynhyrchu sydd hefyd yn fideograffydd lleol, i’r set i roi cymorth ymarferol i’r cyfranogwyr.

 

60 Second Stories: Swansea – Angharad Jenkins

 

60 Second Stories: Swansea – Chris Pejic

 

60 Second Stories: Swansea – Daniela Ochoa

 

 

60 Second Stories: Swansea – Lee Mengo

 

60 Second Stories: Swansea – Leo Niehorster

 

60 Second Stories: Swansea – Mark Caine

 

60 Second Stories: Swansea – Neil Cole

 

60 Second Stories: Swansea – Siobhan Grice

 

60 Second Stories: Swansea – Tom Collingson

 

60 Second Stories: Swansea – Zi Hong Mok

 

60 Second Stories: Swansea – Zoe Murphy

RHANNWCH