Cartref digidol diwylliant Cymru.

60 Second Stories: Newport

Lluniwyd y casgliad o ffilmiau byrion 60 eiliad gan bobl greadigol o Gasnewydd, a fu’n cyfuno ysgrifennu, ffotograffiaeth, ffilm a cherddoriaeth i rannu eu profiadau eu hunain o’r ddinas gan ddefnyddio eu ffonau clyfar yn unig.

Maen nhw’n adrodd straeon personol sy’n cyfleu Casnewydd a’i phobl, gan ddathlu cymuned, diwylliant a threftadaeth; mae All These Empty Shops gan Eve Gil a The Perspective of Insanity gan Lewis Arthur yn fframio gweledigaeth y ddinas o gelf a chreadigrwydd. Mae Home in a Pot gan Jimmelle Williams ac A Man. A Classroom. A Kitchen gan Mahir Ahmed yn archwilio arwyddocad bwyd yn eu bywydau. Ac mae Lost and Found gan Ana Czwarno a The Day The Sky Spoke gan Pragati Bora yn alarnadau telynegol am yr amgylchedd lleol.

Roedd y rhaglen sgiliau creadigol hon gan Ffilm Cymru Wales yn cael ei harwain gan y gwneuthurwr ffilmiau o Gymru, Charlotte James, a bu’r Tiwtor Ysgrifennu Creadigol, Emma Beynon, yn helpu’r cyfranogwyr i ddatblygu eu sgriptiau cyn i’r fideograffydd, Jamie Panton, ddarparu cymorth ymarferol ar y set fel Tiwtor Cynhyrchu. Gwnaeth Ffilm Cymru Wales dreialu’r rhaglen yn Abertawe yn 2025, ac maen nhw’n datblygu cynlluniau ar hyn o bryd i’w hehangu fel y gall pobl greadigol ledled Cymru adrodd eu straeon 60 eiliad. Caiff y prosiect hwn ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd.

 

60 Second Stories: Newport – Lost & Found

 

60 Second Stories: Newport – Stop & Look

 

60 Second Stories: Newport – Time

 

60 Second Stories: Newport – A Room For Us

 

60 Second Stories: Newport – All These Empty Shops

 

60 Second Stories: Newport – Home in a Pot

 

60 Second Stories: Newport – Boomerang

 

60 Second Stories: Newport – The Perspective of Insanity

 

60 Second Stories: Newport – A Man, A Classroom, A Kitchen

 

60 Second Stories: Newport – The Day The Sky Spoke

 

60 Second Stories: Newport – Diversity of Newport

 

60 Second Stories: Newport – Bonjour Kebab

 

60 Second Stories: Newport screening event

RHANNWCH