Alun Davies
Awdur Manawydan Jones – Y Pair Dadeni (Y Lolfa)
Sut brofiad oedd ysgrifennu’r llyfr?
Anodd ar adegau – ar un pwynt wnes i sylweddoli ’mod i wedi mynd ar hyd y trywydd anghywir, ac yn gorfod cael gwared ar ddeng mil o eiriau, ond roeddwn i’n teimlo’n gryf bod y stori yn un dda, a dwi’n falch iawn ’mod i wedi ei dweud hi.
Beth yw eich diddordebau?
Rhedeg, beicio, a dilyn unrhyw fath o chwaraeon.
Beth sy’n eich gwneud chi’n hapus?
Teulu, ffrindiau, gweld tîm Cymru yn ennill.
O ble rydych chi’n cael eich syniadau?
Pan dwi allan yn rhedeg mae’r syniadau yn dod fel arfer – mae’n amser da i feddwl am blot neu gymeriadau.
Oes gennych chi gyngor i rywun sy’n trio ysgrifennu?
Peidiwch stopio. Mae’n syndod faint o bethau anodd gallwch chi eu cyflawni os ydych chi’n styfnig ac yn gwrthod rhoi’r gorau iddi. Mae hyn yn wir am fywyd yn gyffredinol yn ogystal ag ysgrifennu.
Wyn Mason
Awdur Gwlad yr Asyn, darluniau gan Efa Blosse Mason (Gwasg Carreg Gwalch)
Sut brofiad oedd ysgrifennu’r llyfr?
Roedd cydweithio gydag Efa yn brofiad arbennig, gan mai dyma’r tro cyntaf inni weithio’n broffesiynol gyda’n gilydd. Wrth weithio ar y gyfrol, roedd rhaid inni addasu ein perthynas tad-a-merch ychydig i fod yn un awdur-a-darlunydd, a doedd hynny ddim wastad yn syml! Ond yn gyffredinol, daethon ni ymlaen yn wych. Roedd gweld y cymeriadau’n dod yn fyw gam wrth gam, wrth i Efa ddarlunio’i ffordd drwy’r sgript, yn hynod gyffrous.
Pa un oedd eich hoff lyfr yn blentyn?
Mwynheais Y Mwg Melys gan Ifor Wyn Williams a Bob yn y Ddinas gan Siôn Eirian pan o’n i yn fy arddegau hwyr.
Pryd ddechreusoch chi feddwl am ysgrifennu?
Dechreuais i ysgrifennu gyntaf trwy wneud ffilmiau byrion, sef ysgrifennu sgriptiau ac wedyn eu ffilmio. Yna dechreuais i feddwl am ysgrifennu dramâu llwyfan rhyw ddeng mlynedd yn ôl.
O ble rydych chi’n cael eich syniadau?
Dwi’n credu bod y rhan fwyaf o fy syniadau yn dod o ddarllen.
Beth yw’r peth gorau / gwaethaf am fod yn awdur?
Y peth gorau yw’r wefr o greu rhywbeth newydd sbon, rhywbeth nad oedd yn bodoli o’r blaen. A’r peth gwaethaf yw’r perygl o deimlo’n ynysig.
Manon Steffan Ros
Awdur Powell (Y Lolfa)
Pryd ddechreuoch chi feddwl am ysgrifennu?
Dwi ddim yn cofio peidio meddwl am sgwennu, a dweud y gwir! Mae ’na straeon wedi bod yn fy mhen i erioed. Ond dwi’n meddwl ’mod i wedi dechrau meddwl o ddifri am sgwennu straeon mewn llyfr pan ges i’r plant, am ’mod i eisiau sgwennu pethau iddyn nhw.
Oes yna themâu / pynciau arbennig sy’n apelio atoch?
Dwi’n licio sgwennu am bobol ifanc, achos dwi’n meddwl ei fod o’n gyfnod diddorol, cyffrous ond anodd iawn mewn bywyd. Mae disgwyl i bobol ifanc ymddwyn yn aeddfed fel oedolion, ond does ganddyn nhw mo’r un rhyddid ag oedolion. Mae hynny’n teimlo braidd yn annheg i mi weithiau!
Beth yw eich diddordebau?
Dwi wrth fy modd yn darllen, wrth gwrs, ond dwi’n licio gwylio pethau ar y teledu hefyd, yn aml ryw rwtsh ar YouTube! Mae coginio’n ddiddordeb mawr gen i hefyd, a phêl-droed. Dwi’n ffan mawr o LFC – tîm Lerpwl – ac yn licio mynd i Anfield pan ga i gyfle!
Beth sy’n eich gwneud chi’n hapus?
Cerdded! Dwi wrth fy modd yn mynd am dro ar benwythnos, ac yn aml dwi’n cael syniadau am straeon wrth grwydro’r mynyddoedd neu goedwigoedd. Mae fy meibion yn fy ngwneud i’n hapus iawn, iawn hefyd. Maen nhw’n gwmni mor dda, yn ddigri ac yn ddifyr, a dwi’n mwynhau sgwrsio efo nhw am eu bywydau a’r pethau sydd re u meddyliau nhw.
Caiff enillwyr eu cyhoeddi ddydd Iau, 1 Mehefin ar faes Eisteddfod yr Urdd, Sir Gaerfyrddin.
Mae holl gyfrolau’r rhestr fer ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.