Cartref digidol diwylliant Cymru.

5 Coctêl Hawdd a Hafaidd

Llenyddiaeth

Ar ddiwrnod poeth yn ganol ha’, does dim byd gwell na choctel oer. Ond does dim byd gwaeth na gorfod gwario amser i wneud nhw.
Dyma ein 5 coctêl gorau ac hawdd, a sut i’w gwneud.
– gan Rob Jones

Margarita Clasurol
Sur, hallt ac yn hawdd iawn i’w wneud. Ar ol un sipian, fu chi ‘di gadael eich gardd yn Nghymru, ac fyddwch chi’n torheulo ar draeth yn Mexico.
Efallai nad yw’r cynhwysion yn rhai y bydd gennych chi yn eich cwpwrdd yn barod, ond ma’n werth y daith i’r siop, ac ar ol hynny ma’ hi’n hawdd iawn.
Rhowch gynnig ar gymysgu Chilli wedi’i falu mewn â’ch halen i ychwanegu ychydig o sbeis.
EIN RYSAIT

Negroni
Breuddwyd chwerw a chwaethus ydi Negroni. Hanu o strydoedd yr Eidal, ma’n pelydru lliw coch llachar ac yn ddiod oedolyn go iawn. Yn cael ei ystyried yn apéritif, mae ganddo flas cymhleth – chwerw a sych – felly yn sicr yn ddiod i’r palet aeddfed. Er bod ei flas yn fawreddog, mae’n rhif cyflym heb ffwdan.
EIN RYSAIT

Spritz Aperol
Mae’r spritz aperol fel y ffrind ‘na ma pawb yn ffrindiau efo. Poblogaidd, hwyl a hynod o fyrlymus.
O’i ddechreuad gostyngedig o’r Eidal sy’n dyddio’n ôl i 1919, mae wedi bod yn dipyn o daith. Heddiw, yn dilyn comeback dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’n seren y scrîn (hynny yw, Instagram).
Ond, mae na fwy i’r diod na’i liw oren llachar sy’n dod ar likes i fewn. Mae ei sylfaen yn chwerw, ond drwy ychwanegu gwin pefriog neu Prosecco mae’n trawsnewid i flas cain a sitrws chwerwfelys, ac ma’r swigod yn dawnsio ar eich tafod. Dyma diod y haf.
Rydyn ni’n hoffi dilyn y mesur 3-2-1.
EIN RYSAIT

Mint Julep
Os na fydd y coctel Bourbon Americanaidd hwn yn eich oeri, ni fydd unrhyw beth. Ma hi’n hit enfawr yn y talieithiau deheuol yn America, a mae pob sip yn adfywiol, yn ysgafn ac yn cŵl. I fod yn hollol ddilys, gallwch ei serfio mewn cwpan copr neu arian.
EIN RYSAIT

Tom Collins
Clasur yw Tom Collins, a ddyfeisiwyd gan Jerry Thomas ym 1876, tad Mixology Americanaidd. Mae’r lemonêd i oedolion yn ysgafn ac yn adfywiol sy’n ei gwneud hi’n berffaith am brynhawn hir o dan yr haul.
Trowch o fewn i Juan Collins gan ddefnyddio tequila a sudd leim yn lle.
EIN RYSAIT

RHANNWCH