Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, rydym wrth ein modd i ddathlu’r garreg filltir o 400 o aelodau✨
Diolch o galon i bob un o’n haelodau, a diolch o galon i’r partneriaid sy’n gweithio gyda ni er mwyn ddatblygu cyfleoedd hygyrch sy’n cefnogi a chodi proffil gwaith ein haelodau.
Mae’r celfyddydau’n darparu llwyfan y gellir ei ddefnyddio i herio’r canfyddiadau negyddol cyffredin o bobl anabl, i dynnu sylw at anghydraddoldebau, ac i gefnogi dewisiadau cyfiawnder cymdeithasol amgen.
Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda chi gyd i’r fodel gymdeithasol o anabledd, trwy symud y cyfrifoldeb am fynediad o’r unigolyn i’r gymdeithas ehangach, sefydliadau ac isadeileddau.
Rydym yn credu bod pobl anabl a byddar yn ganolog i gelfyddydau’r genedl ac yn ddiolchgar i chi gyd am weithio gyda ni tuag at ein gweledigaeth o Gymru gyfartal a chreadigol.