Cartref digidol diwylliant Cymru.

2023 Applications Now Open

Cerddoriaeth

Cyfuniad o bobl ifanc o’r un meddylfryd, 16-25 oed, yn cydweithio i gysylltu pobl ifanc â chyfleoedd yn y diwydiant cerddoriaeth.

Beth yw The Young Promoters Network?

Mae Beacons Cymru yn gyffrous i gyhoeddi bod Young Promoters Network (YPN) yn dychwelyd. Wedi’i sefydlu yn Rhondda Cynon Taf yn 2010, mae’r Rhwydwaith wedi lansio nifer o yrfaoedd yn y diwydiant cerddoriaeth trwy ddatblygu sgiliau allweddol mewn peirianneg sain, rheoli digwyddiadau, hyrwyddo, ffotograffiaeth, a llawer mwy.

Nod YPN yw grymuso pobl ifanc trwy ddarparu set sgiliau newydd iddynt, gan gynyddu eu cyfleoedd gyrfa o fewn y sectorau cerddoriaeth fyw tra’n hybu hunan-barch a hyder. Daeth y prosiect i Gymru gyfan yn 2022 a chefnogodd 8 o bobl ifanc ledled Cymru. Bydd yn dychwelyd yn 2023 gyda’r nod o chwalu rhagor o rwystrau i bobl ifanc ledled Cymru yn eu cymunedau lleol.

Bydd YPN yn cynnig cyfle i chwe pherson ifanc, 18-25 oed, o bob rhan o Gymru, i ddatblygu eu sgiliau fel hyrwyddwyr, cael mynediad i rwydweithiau diwydiant newydd a chynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw.

Yr hyn y mae’r prosiect yn ei ddarparu;

> Cyfle i ddatblygu sgiliau newydd mewn rheoli digwyddiadau byw.

> Cyllid i dalu costau cynnal digwyddiad.

> Mynediad i rwydwaith newydd o gyd-hyrwyddwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.

> Hyfforddiant proffesiynol, mentoriaeth a chyngor 1-2-1 ar gyfer eich datblygiad personol eich hun.

> Mynediad i ddigwyddiad arddangos cenedlaethol ym mis Chwefror 2024.

Yn gyffredinol, darparu’r offer i ddechrau eu teithiau fel hyrwyddwyr cerddoriaeth fyw, creu cymunedau newydd, a rhoi sylw i artistiaid/bandiau o fewn y cymunedau hynny.

Mae YPN yn gwybod nad oes dim byd yn lle profiad uniongyrchol i helpu pobl ifanc i gyflawni ac rydym yn falch o ddarparu’r profiad hwnnw!

A yw’r cyfle yma’n iawn i chi?
Rydym yn chwilio am 6 hyrwyddwr ifanc cyffrous (18-25) o bob rhan o Gymru, sy’n awyddus i wella eu siawns o ddilyn gyrfa gynaliadwy yn y sector cerddoriaeth fyw.

Rydyn ni’n chwilio’n arbennig am bobl sydd am gael effaith yn eu cymuned leol.

Byddwn ni’n darparu:
> Cyfle i ddatblygu sgiliau newydd mewn rheoli digwyddiadau byw.
> Cyllid i dalu costau cynnal digwyddiad.
> Mynediad i rwydwaith newydd o gyd-hyrwyddwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.
> Hyfforddiant proffesiynol, mentoriaeth a chyngor 1-2-1 ar gyfer eich datblygiad personol eich hun.
> Mynediad i ddigwyddiad arddangos cenedlaethol ym mis Chwefror 2024.

Ydw i’n gymwys?
Rydych yn gymwys i wneud cais am YPN os ydych:

> 18-25 mlwydd oed
> Yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd

Pryd mae hyn yn digwydd?
Bydd y rhaglen yn cael ei chynnal rhwng Gorffennaf 2023 – Mawrth 2024.

Sut mae’r cyfle yma’n bosibl?
Mae’r cyfle hwn yn bosibl diolch i Youth Music.

CEISIWCH YMA

RHANNWCH