Cyflwyniad
Croeso i bolisi preifatrwydd PYST Cyf.
Mae PYST CYFYNGEDIG yn parchu eich preifatrwydd ac wedi ymrwymo i ddiogel eich data personol. Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn eich hysbysu sut rydym yn gofalu am eich data personol wrth i chi ymweld â’n gwefan (o ble bynnag rydych chi’n ymweld â hi) a dweud wrthych chi am eich hawliau preifatr- wydd a sut mae’r gyfraith yn eich diogelu.
1. Gwybodaeth bwysig am bwy ydym ni
Diben y polisi preifatrwydd hwn Nod y polisi preifatrwydd hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am sut mae PYST CYFYNGEDIG yn casglu a phrosesu eich data personol pan fyddwch chi’n defnyddio’r wefan hon, gan gynnwys unrhyw ddata y byd- dwch yn ei ddarparu drwy’r wefan hon pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer ein cylchlythyr neu yn prynu cyn- nyrch neu wasanaeth neu yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth.
Nid yw’r wefan hon wedi’i llunio ar gyfer plant ac nid ydym yn casglu data sy’n ymwneud â phlant yn fwriadol.
Mae’n bwysig eich bod yn darllen y polisi preifatrwydd hwn ochr yn ochr â pholisïau preifatrwydd eraill neu bolisïau prosesu’n deg y byddwn yn eu darparu ar achlysuron penodol wrth i ni gasglu neu brosesu data personol amdanoch chi er mwyn i chi fod yn gwbl ymwybodol o sut a pham ein bod yn defnyddio’ch data. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn ategu hysbysiadau a pholisïau preifatrwydd eraill ac ni fwriedir iddo eu gwrthwneud.
Rheolydd PYST CYFYNGEDIG yw’r rheolydd ac sy’n gyfrifol am eich data personol (y cyfeirir ato fel PYST CYFYN- GEDIG, “ni” neu “ein” yn y polisi preifatrwydd hwn).
Rydym wedi penodi swyddog diogelu data (DPO) sy’n gyfrifol am arolygu cwestiynau mewn perthynas â’r polisi preifatrwydd hwn. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y polisi preifatrwydd hwn, gan gynnwys unrhyw geisiadau i ymarfer [dolen i’ch hawliau cyfreithiol], cysylltwch â’r DPO gan ddefnyddio’r manylion isod.
Manylion cyswllt Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y polisi preifatrwydd hwn, cysylltwch a ni yn y ffyrdd canlynol: Enw llawn endid cyfreithiol: PYST CYFYNGEDIG
Cyfeiriad e-bost: am@pyst.cymru
Cyfeiriad post: 28 Castle Arcade Balcony, Caerdydd, CF10 1BY Ffôn: 02920394200
Mae gennych chi hawl gwneud cwyn ar unrhyw adeg i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, yr awdurdod goruchwylio yn y DU ar faterion diogelu data (www.ico.org.uk <https://www.ico.org.uk>). Fodd bynnag, byd- dem yn gwerthfawrogi’r cyfle i ddelio â’ch pryderon cyn i chi gysylltu â’r ICO, felly cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.
Newidiadau i’r polisi preifatrwydd a’ch dyletswydd i’n hysbysu o newidiadau Rydym yn adolygu ein polisi preifatrwydd yn rheolaidd.
Mae’n bwysig bod y data personol sydd gennym amdanoch chi yn gywir ac yn gyfredol. Rhowch wybod i ni os yw’ch data personol yn newid n ystod eich perthynas â ni.
Dolenni trydydd parti Efallai y bydd y wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau trydydd parti, ategion a chymwysiadau. Gallai clicio ar y dolenni hynny neu alluogi cysylltiadau olygu bod trydydd partïon yn gallu rhannu neu gasglu data amdanoch chi. Nid ydym yn rheoli gwefannau trydydd parti ac nid ydym yn gyfrifol am eu datganiadau preifatrwydd. Wrth i chi adael ein gwefan, rydym yn eich annog i ddarllen polisi preifatrwydd pob gwefan y byddwch yn ymweld â nhw.
2. Y data rydym yn ei gasglu amdanoch chi
Mae data personol, neu wybodaeth bersonol, yn golygu unrhyw wybodaeth am unigolyn lle gellir adnabod y person hwnnw. Nid yw’n cynnwys data lle na ellir adnabod y person (data dienw).
Efallai y byddwn yn casglu, defnyddio, cadw a throsglwyddo gwahanol fathau o ddata personol amdanoch chi y byddwn wedi’i gyfuno â’i gilydd fel a ganlyn:
- Data hunaniaeth – cynnwys enw cyntaf, ail enw, enw olaf, enw defnyddiwr neu debyg, statws priodasol, teitl, dyddiad geni a rhyw.
- Data cyswllt – cynnwys cyfeiriad bilio, cyfeiriad dosbarthu, cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn.
- Data ariannol – cynnwys manylion cyfrif banc a chardiau talu.
- Data trafodion – cynnwys manylion am daliadau i a gennych chi a manylion eraill cynhyrchion a gwasanaethau rydych chi wedi’u prynu gennym ni.
- Data technegol – cynnwys cyfeiriad protocol rhyngrwyd (IP), eich data mewngofnodi, math a fersiwn eich porwr, gosodiad parth amser a lleoliad, mathau a fersiynau .Ategion porwr, system a llwyfan gweithredu a thechnoleg arall ar y dyfeisiau rydych chi’n eu defnyddio i gyrchu’r wefan hon.
- Data proffil cynnwys eich enw defnyddiwr a chyfrinair, eitemau a brynwyd neu archebion gen- nych chi, eich diddordebau, blaenoriaethau, adborth ac ymatebion arolwg.
- Data defnydd – cynnwys gwybodaeth am sut rydych chi’n defnyddio ein gwefan, cynhyrchion a gwasanaethau.
- Data marchnata a chyfathrebu – cynnwys eich blaenoriaethau wrth dderbyn deunydd march- nata gennym ni a’n trydydd partïon a’ch blaenoriaethau cyfathrebu.
Rydym hefyd yn casglu, defnyddio a rhannu Data Cyfanredol fel data ystadegol neu ddemograffig at un- rhyw ddiben. Gall Data Cyfanredol ddeillio o’ch data personol, ond nid yw’n cael ei ystyried yn ddata per-
sonol yn ôl y gyfraith gan na fydd hyn yn datgan eich hunaniaeth yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Er enghraifft, efallai y byddwn yn cydgasglu eich Data Defnydd i gyfrifo canran y defnyddwyr sy’n cyrchu rhan benodol o’r wefan. Fodd bynnag, os ydym yn cyfuno neu gysylltu Data Cyfanredol gyda’ch data per- sonol er mwyn gallu eich adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, rydym yn trin y data cyfunol fel data personol a fydd yn cael ei ddefnyddio yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn.
Nid ydym yn casglu unrhyw Gategorïau Arbennig o Ddata Personol amdanoch chi (mae hyn yn cynnwys manylion am eich hil neu ethnigrwydd, credoau crefyddol neu athronyddol, bywyd rhyw, cyfeiriadedd rhy- wiol, barn wleidyddol, aelodau undebau llafur, gwybodaeth am eich iechyd a data genetig a biometreg). Nid ydym ychwaith yn casglu unrhyw wybodaeth am euogfarnau troseddol neu droseddau.
Os ydych chi’n methu darparu data personol
Pan fyddwn angen casglu data personol yn ôl y gyfraith, neu dan delerau ac amodau contract sydd gen- nym gyda chi, a’ch bod yn methu darparu’r data ar gais, efallai na fyddwn yn gallu cyflawni’r contract sydd gennym neu’n ceisio dod i gytundeb gyda chi amdano (er enghraifft, darparu nwyddau neu wasanaethau i chi). Mewn achosion fel hyn, efallai y bydd yn rhaid i ni ddiddymu cynnyrch neu wasanaeth sydd gennym gyda chi, ond byddwn yn eich hysbysu o hynny ar y pryd.
3. Sut y cesglir eich data personol?
Rydym yn defnyddio gwahanol ddulliau o gasglu data gennych chi ac amdanoch chi, gan gynnwys:
- Rhyngweithio uniongyrchol. Efallai y byddwch chi’n rhoi eich Data Adnabod, Cyswllt neu Ari- annol i ni drwy lenwi ffurflenni neu drwy ohebu â ni drwy’r post, ar y ffôn, e-bost neu fel arall. Mae hyn yn cynnwys data personol y byddwch chi’n ei ddarparu wrth:
- wneud cais am ein cynhyrchion neu wasanaethau;
- creu cyfrif ar ein gwefan;
- tanysgrifio i’n gwasanaeth neu gyhoeddiadau;
- rhoi cynnig ar gystadleuaeth, hyrwyddiadau neu arolwg; neu
- roi adborth i ni neu gysylltu â ni.
- Technolegau neu ryngweithiadau awtomataidd. Wrth i chi ryngweithio â’n gwefan, byddwn yn casglu Data Technegol am eich cyfarpar, camau a phatrymau pori yn awtomatig. Rydym yn cas- glu’r data personol hwn drwy ddefnyddio cwcis, logiau gweinyddydd a thechnolegau eraill tebyg. Rydym hefyd yn derbyn Data Technegol amdanoch chi os ydych chi’n ymweld â gwefannau eraill sy’n defnyddio ein cwcis. Gweler ein polisi cwcis www.amam.cymru/termau am fanylion pellach.
- Trydydd partïon neu ffynonellau sydd ar gael yn gyhoeddus. Byddwn yn derbyn data per- sonol amdanoch chi gan drydydd partïon a ffynonellau cyhoeddus amrywiol fel y nodir isod:
Data Technegol gan y partïon canlynol:
(a) Darparwyr dadansoddeg fel Google sydd wedi’u lleoli y tu allan i’r UE;
(b) Rhwydweithiau hysbysebu a
(c) Darparwyr chwilio am wybodaeth.
- Data Cyswllt, Ariannol a Thrafodion gan ddarparwyr gwasanaethau technegol, taliadau a dos- barthu.
- Data Adnabod a Chyswllt gan ffynonellau sydd ar gael n gyhoeddus fel Tŷ’r Cwmnïau a’r Gofre- str Etholwyr sydd wedi’u lleoli o fewn yr UE.
4. Sut rydym yn defnyddio’ch data personol
Byddwn ond yn defnyddio’ch data personol pan fo’r gyfraith yn caniatáu i wneud hynny. Yn fwyaf cyffredin, byddwn yn defnyddio’ch data personol o dan yr amgylchiadau canlynol:
- Lle’r mae angen i ni gyflawni’r contract rydym ar fin cytuno arno neu wedi cytuno arno gyda chi.
- Lle mae angen i’n buddiannau dilys (neu rai trydydd parti) a’ch buddiannau chi a’ch hawliau syl- faenol beidio â gwrthwneud y buddiannau hynny.
- Lle mae angen i ni gydymffurfio â’r rhwymedigaeth gyfreithiol?
Cliciwch yma www.amam.cymru/termau i gael rhagor o wybodaeth am y mathau o seiliau cyfreithlon y byd- dwn yn dibynnu arnynt i brosesu’ch data personol.
Ar y cyfan, nid ydym yn dibynnu ar gydsyniad fel sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol, er y byddwn yn cael eich cydsyniad cyn anfon deunydd marchnata uniongyrchol trydydd parti i chi ar e-bost neu neges destun. Mae gennych chi hawl i dynnu’ch cydsyniad i farchnata yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â ni.
Y dibenion y byddwn yn defnyddio’ch data personol
Rydym wedi nodi isod, ar ffurf tabl, disgrifiad o’r holl ffyrdd yr ydym yn bwriadu defnyddio eich data person- ol, ac ar ba seiliau cyfreithlon y byddwn yn dibynnu arnynt i wneud hynny. Rydym hefyd wedi nodi beth yw ein buddiannau dilys lle’n briodol.
Noder y byddwn o bosibl yn prosesu data personol ar gyfer mwy nag un sail gyfreithlon, yn dibynnu ar ba ddiben penodol rydym yn defnyddio’ch data. Cysylltwch â ni os ydych chi angen manylion y sâl gyfreithlon rydym ni’n dibynnu arni i brosesu’ch data personol lle mae mwy na un sil wedi’i nodi yn y tabl isod.
| Diben/ Gweithgarwch | Math o ddata | Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu, g gynnwys buddiant dilys |
| I’ch cofrestru fel cwsmer neu d fnyddiwr newydd | (a) Adnabod (b) Cyswllt | Cyflawni contract gyda chi |
| I brosesu a danfon eich archeb gan gynnwys: (a) Rheoli taliadau, ffioedd a tha (c) Ariannol ada (b) Casglu ac adfer arian sy ddyledus i ni | (a) Adnabod (b) Cyswllt (c) Ariannol (d) Trafodion (e) Marchnata a Chyfath rebu | (a) Cyflawni contract gyda chi (b) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i adennill dyledion sy’n ddyledus i ni) |
| Er mwyn rheoli ein perthynas â chi a fydd yn cynnwys: (a) Eich hysbysu am newidiadau i’n telerau neu bolisi preifatrwydd (b) Gofyn i chi adael adolygiad neu wneud arolwg | (a) Hunaniaeth (b) Cyswllt (c) Proffil (d) Marchnata a Chyfathrebu | (a) Cyflawni contract gyda chi (b) Angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol (c) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i ddiweddaru ein cofnodion ac astudio sut mae cwsmeriaid yn defnyddio ein cynnyrch/gwasanaethau) |
| Er mwyn eich galluogi i gymryd rhan mewn raffl, cystadleuaeth neu gwblhau arolwg | (a) Hunaniaeth (b) Cyswllt (c) Proffil (d) Defnydd (e) Marchnata a Chyfathrebu | (a) Cyflawni contract gyda chi (b) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i astudio sut mae cwsmeriaid yn defnyddio ein cynnyrch/gwasanaethau, i’w datblygu a thyfu ein busnes) |
| Gweinyddu a diogelu ein busnes a’r wefan hon (gan gynnwys datrys problemau, dadansoddi data, profi, cynnal a chadw systemau, cefnogi, adrodd a chynnal data) | (a) Hunaniaeth (b) Cyswllt (c) Technegol | (a) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (ar gyfer rhedeg ein busnes, darparu gwasanaethau gweinyddol a TG, diogelwch rhwydwaith, atal twyll ac yng nghyd-destun ad-drefnu busnes neu ymarfer ailstrwythuro grŵp) (b) Angenrheidiol er mwyn cydymffurfio ag a |
| Cyflwyno cynnwys gwefan a hysbysebion perthnasol i chi a mesur neu ddeall effeithiolrwydd yr hysbysebu a wasanaethwn i chi | (a) Hunaniaeth (b) Cyswllt (c) Proffil (d) Defnydd (e) Marchnata a Chyfathrebu Technegol | Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i astudio sut mae cwsmeriaid yn defnyddio ein cynnyrch/gwasanaethau, i’w datblygu, i dyfu ein busnes ac i lywio ein strategaeth farchnata) |
| Defnyddio dadansoddeg data i wella ein gwefan, cynnyrch/gwasanaethau, marchnata, perthnasoedd cwsmeriaid a phrofiadau | (a) Technegol (b) Defnydd | Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i ddiffinio mathau o gwsmeriaid ar gyfer ein cynnyrch a gwasanaethau, i gadw ein gwefan yn gyfoes ac yn berthnasol, i ddatblygu ein busnes ac i lywio ein strategaeth farchnata) |
| I wneud awgrymiadau ac argymhellion i chi am nwyddau neu wasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi | (a) Hunaniaeth (b) Cyswllt (c) Technegol (d) Defnydd (e) Proffil (f) Marchnata a Chyfathrebu | Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i ddatblygu ein ynnyrch/gwasanaethau a thyfu ein busnes) |
| I nodi eich gwybodaeth geo- leoliad (yn defnyddio dylliau cymesur, gan ddefnyddio data lleoliad lle gellir ei gasglu trwy gyfeiriad protocol rhyngrwyd (IP), eich data mewngofnodi, math a fersiwn eich porwr, gos odiad a lleoliad eich parth am- ser, math eich porwr plug-in, system weithredu a phlatfform a thechnoleg arall ar y dyfeisi- adau rydych yn defnyddio i ga mynediad i’r wefan) | (a) Hunaniaeth (b) Cyswllt (c) Technegol (d) Defnydd (e) Proffil (f) Marchnata a Chy – fathrebu | Yn angenrheidiol ar gyfer ein buddian nau cyfreithlon (i gael mynediad at ei gwybodaeth geo-leoliad, p’un a yw’n leoliad union neu’n fras, i: (a) ddatblygu ein cynnyrch / gwasan- aethau a thyfu ein busnes; (b) darparu cynnwys a hysbysebu sy’ berthnasol i chi; a (c) cwrdd â gofynion daearyddol yn e cytundebau â pherchnogion y cynnwy sy’n defnyddio ein gwefan) |
Cynigion hyrwyddo gennym ni
Efallai y byddwn yn defnyddio eich Data Adnabod, Cyswllt, Technegol, Defnydd a Phroffil i benderfynu beth rydym ni’n ei feddwl rydych chi am ei gael neu ei angen, neu beth allai fod o ddiddordeb i chi. Dyma sut rydym yn penderfynu pa gynhyrchion, gwasanaethau a chynigion allai fod yn berthnasol i chi (gelwir hyn yn marchnata).
Byddwch yn derbyn deunydd cyfathrebu marchnata gennym ni os ydych chi wedi gofyn am wybodaeth gennym ni neu os ydych chi wedi [rynnu nwyddau neu wasanaethau gennym ni ac nad ydych chi wedi dewis peidio â derbyn deunydd marchnata.
Marchnata trydydd parti
Byddwn yn derbyn eich cydsyniad optio i mewn cyn i ni rannu eich data personol gydag unrhyw drydydd pat at ddibenion marchnata.
Optio allan
Gallwch ofyn i ni neu drydydd partïon i roi’r gorau i anfon negeseuon marchnata atoch chi ar unrhyw adeg drwy fewngofnodi ar ein gwefan a gwirio neu ddatwirio blychau penodol i addasu eich blaenoriaethau marchnata neu drwy ddilyn y dolenni optio allan ar unrhyw neges farchnata a anfonir i chi neu drwy gysylltu â ni ar unrhyw adeg.
Os ydych chi’n optio allan rhag derbyn y negeseuon marchnata hyn, ni fydd hyn yn berthnasol i ddata per- sonol a ddarperir i ni yn sgil prynu cynnyrch/ gwasanaeth, cofrestru gwarant, profiad cynnyrch/gwasanaeth neu drafodion eraill.
Cwcis
Gallwch osod eich porwr i wrthod pob cwci porwr neu rai ohonynt, neu eich hysbysu pan fydd y wefan yn gosod neu’n derbyn cwcis. Os ydych chi’n gwrthod cwcis, noder na fyddwn o bosibl yn gallu cyrchu rhai rhannau o’r wefan hon neu efallai na fyddant yn gweithio’n iawn www.amam.cymru/telerau
Newid diben
Byddwn ond yn defnyddio’ch data personol at y dibenion rydym ni’n ei gasglu, oni bai ein bod yn ystyried yn rhesymol bod angen i ni ei ddefnyddio am reswm arall a bod y rheswm hwnnw’n gyson â’r diben gwrei- ddiol. Os ydych chi am gael esboniad sut byddwn yn prosesu a yw’r diben newydd n gyson â’r diben gwrei- ddiol, cysylltwch â ni.
Os byddwn angen defnyddio eich data personol at ddiben nad yw’n gysylltiedig, byddwn yn eich hysbysu ac yn egluro at ba sail gyfreithiol y gallwn ni wneud hynny.
Noder y byddwn o bosibl yn prosesu eich data personol heb i chi wybod na chydsynio, yn unol â’r rheolau uchod, os yw hynny’n ofynnol neu os yw’r gyfraith yn caniatáu hynny.
5. Datganiadau o’ch data personol
Efallai y byddwn yn rhannu eich data personol gyda’r partïon a nodir isod at y dibenion a nodir yn y tabl uchod.
- Trydydd Partïon Mewnol fel y nodir yn paragraff 10.
- Trydydd Partïon Allanol fel y nodir yn yr paragraff 10.
- Trydydd partïon y byddwn o bosibl yn dewis gwerthu, troseddu neu uno rannau o’n busnes id- dynt nei ein hasedau. Fel arall, efallai y byddwn yn ceisio caffael busnesau eraill neu uno â nhw. Os oes newid yn cael ei wneud i’n busnes, yna gall y perchnogion newydd ddefnyddio eich data personol yn yr un ffordd ag y nodir yn y polisi preifatrwydd.
Mae’n ofynnol gennym ni i bob trydydd parti barchu diogelwch eich data personol a’i drin yn unol â’r gyfraith. Nid ydym yn caniatau i ddarparwyr gwasanaethau trydydd parti ddefnyddio eich data personol at eu dibenion eu hunain ac ond yn caniatau iddynt brosesu eich data personol at ddibenion a nodir ac yn unol â’n cyfarwyddiadau.
6. Trosglwyddiadau rhyngwladol
Ni fyddwn yn trosglwyddo eich data personol y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).
7. Diogelwch data
Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith u atal i’ch data personol rhag cael ei golli’n ddamweiniol, ei ddefnyddio neu ei gyrchu mewn ffordd heb ei awdurdodi, ei newid neu ei ddatgelu. Hefyd, rydym yn cyfyngu ar fynediad at eich data personol i’r gweithwyr, asiantau, contractwyr a thrydydd partïon sydd ag angen busnes i wybod. Byddant ond yn prosesu eich data personol dan ein cyfarwyddyd ni ac maent yn amodol ar ddyletswydd cyfrinachedd.
Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ddelio ag unrhyw achos lle mae amheuaeth o dorri rheolau data personol a byddwn yn eich hysbysu ac unrhyw reoleiddiwr cymwys o achos o dorri rheolau lle mae gofyni- ad cyfreithiol i ni wneud hynny.
8. Cadw data
Am faint y byddwch chi’n defnyddio fy nata personol?
Byddwn ond yn cadw’ch data personol cyhyd ag sy’n rhesymol angenrheidiol i gyflawni’r dibenion y byddwn yn ei gasglu ar eu cyfer, gan gynnwys at ddiben bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, treth, cyfrifyddu neu adrodd. Efallai y byddwn yn cadw eich data personol am gyfnod hirach pe bai cwyn neu os ydym yn credu yn rhesymol bod posibilrwydd o liniaru mewn perthynas â’n perthynas â chi.
I bennu’r cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol, rydym yn ystyried swm, natur a sensitifrwydd yr holl ddata personol, y risg bosibl o niwed gan ddefnydd heb ei awdurdodi neu ddatgelu’ch data personol, y dibenion y byddwn yn prosesu eich data personol ac a allwn gyflawni’r dibenion hynny drwy ffyrdd eraill, a’r gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, treth, cyfrifyddu neu gyfreithiol eraill.
Mae manylion cyfnodau cadw ar gyfer gwahanol elfennau o’ch data [ar gael yn ein polisi cadw y gallwch ei gael ar gais drwy gysylltu â ni].
O dan rai amgylchiadau gallwch ofyn i ni ddileu eich data.
O dan rai amgylchiadau byddwn yn sicrhau bod eich data personol yn ddienw (fel na ellir ei gysylltu â chi mwyach) at ddibenion ymchwil neu ystadegol, lle byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon yn amhenodol heb eich hysbysu ymhellach.
9. Eich hawliau cyfreithiol
O dan amgylchiadau penodol, mae gennych chi hawliau dan y cyfreithiau diogelu data mewn perthynas â’ch data personol. Cliciwch ar y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn:
Os ydych chi am ymarfer unrhyw un o’r hawliau a nodir uchod, cysylltwch â ni.
Nod oes angen talu ffi fe arfer
Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi i gael mynediad at eich data personol (neu i ymarfer unrhyw hawliau eraill). Fodd bynnag, efallai y byddwn ni’n codi ffi resymol os nad oes sail amlwg i’ch cais, neu os ydych chi’n go- fyn dro ar ôl thro. Fel arall, gallem wrthod cydymffurfio â’ch cais o dan yr amgylchiadau hyn.
Beth fyddwn ni ei angen gennych chi o bosibl
Efallai y bydd angen i ni ofyn am wybodaeth benodol gennych chi i’n helpu i gadarnhau eich hunaniaeth a sicrhau eich hawl i gael mynediad at eich data personol (neu i ymarfer eich hawliau eraill). Mae hwn yn fesur diogelwch i sicrhau nad yw’ch data personol yn cael ei ddatgelu i unrhyw berson arall nad oes â hawl i’w dderbyn. Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi i ofyn i chi am ragor o wybodaeth mewn perthynas â’ch cais i gyflymu eich ymateb.
Terfyn amser i ymateb
Rydym yn ceisio ymateb i bob cais dilys o fewn mis, O bryd i’w gilydd, gallai gymryd mwy na mis i ni os yw’ch cais yn hynod o gymhleth neu os ydych chi wedi gwneud sawl cais. Yn yr achos hwn, byddwn yn eich hysbysu ac yn cadw mewn cysylltiad â chi.
10. Geirfa SAIL GYFREITHLON
Mae Buddiant Dilys yn golygu buddiant o’ch busnes wrth gynnal a rheoli eich busnes er mwyn eich gallu- ogi i roi’r gwasanaeth/cynnyrch gorau a’r profiad gorau a mwyaf diogel. Rydym yn gofalu ein bod yn ystyried ac yn cydbwyso unrhyw effaith bosibl arnoch chi (positif a negyddol) a’ch hawliau cyn i ni brosesu eich data personol ar gyfer ein buddiannau dilys. Ni fyddwn yn defnyddio’ch data personol ar gyfer gweith- gareddau lle mae ein buddiannau yn cael eu gwrthwneud gan yr effaith arnoch chi (oni bai bod gennym ein cydsyniad neu ei bod yn ofynnol i ni yn ôl y gyfraith neu fod y gyfraith yn ein caniatáu i wneud hynny)). Gallwch gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth am su rydym yn prosesu ein buddiannau dilys yn erbyn un- rhyw effaith bosibl arnoch chi o ran gweithgareddau penodol.
Mae Cyflawni Contract yn golygu prosesu eich data lle mae hynny’n angenrheidiol ar gyfer cyflawni con- tract lle’r ydych yn rhan ohono neu gymryd camau ar eich cais cyn cytuno ar gontract o’r fath.
Mae cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol yn golygu prosesu ein data personol lle mae angen gwneud hynny ar gyfer cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol.
TRYDYDD PARTÏON
Trydydd Partïon Mewnol
Cwmnïau eraill yng Ngrŵp PYST Cyf sy’n gweithredu fel cyd reolyddion ac sy’n darparu gwasanaethau gweinyddu system TG ac yn cynnal gwaith adrodd ar arweinyddiaeth.
Trydydd Partïon Allanol
- Darparwyr gwasanaethau sy’n gweithredu fel proseswyr sy’n darparu gwasanaethau gweinyddu system TG.
- Cynghorwyr proffesiynol sy’n gweithredu fel proseswyr, gan gynnwys cyfreithwyr, bancwyr, archwilwyr ac yswirwyr sy’n darparu gwasanaethau ymgynghoriaeth, bancio, cyfreithiol, yswirio a chyfrifyddu.
- Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, rheoleiddwyr ac awdurdodau eraill sy’n gweithredu fel proseswyr sydd angen adrodd ar weithgareddau prosesu o dan amgylchiadau penodol.
EICH HAWLIAU CYFREITHIOL
Mae gennych chi’r hawl i wneud:
Cais i gael mynediad at eich data personol (a elwir yn gyffredin yn !cais i gael mynediad at bwnc data”.
Mae hyn yn eich galluogi i dderbyn copi o”r data personol sydd gennym amdanoch chi a gwirio ein bod yn ei ddefnyddio yn gyfreithlon.
Cais i gywiro y data personol sydd gennym ni amdanoch chi. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn am gael cy- wiro unrhyw ddata anghyflawn neu anghywir sydd gennym amdanoch chi, er efallai y bydd yn rhaid i ni ddilysu cywirdeb y data newydd y byddwch yn ei ddarparu i ni.
Cais i ddileu eich data personol. Mae hyn yn ein galluogi i ofyn i chi ddileu neu gael gwared ar ddata per- sonol lle nad oes rheswm i ni barhau i”w brosesu. Mae gennych chi”r hawl hefyd i ofyn i ni ddileu neu gael
gwared ar ddata personol lle”r ydych chi wedi ymarfer eich hawl yn llwyddiannus i wrthod prosesu (gweler
isod), lle”r ydym ni wedi prosesu eich gwybodaeth yn anghyfreithlon neu lle mae”n ofynnol i ni ddileu eich data personol er mwyn cydymffurfio â chyfraith leol. Fodd bynnag, efallai na fyddwn yn gallu cydymffurfio â’ch cais i ddileu bob tro am resymau cyfreithiol penodol y byddwn yn eu hysbysu wrthych chi, os yn gym-wys, ar adeg eich cais.
Gwrthod prosesu eich data personol lle”r ydym yn dibynnu ar fuddiant dilys (neu rai trydydd parti) a bod rhywbeth am eich sefyllfa benodol sy”n gwneud i chi fod eisiau gwrthod prosesu ar y sail hon gan eich bod yn credu ei fod yn effeithio ar eich hawliau sylfaenol a”ch rhyddid. Mae gennych chi hefyd yr hawl i wrthod os ydym yn prosesu”ch data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn dangos bod gennym seiliau cyfreithlon i brosesu”ch gwybodaeth a bydd hyn yn gwrthwneud eich hawliau a”ch rhyddid.
Cais i gyfyngu prosesu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni atal prosesu”ch data per- sonol yn y sefyllfaoedd canlynol:
- Os ydych chi am i ni bennu cywirdeb y data.
- Lle mae ein defnydd i”r data yn anghyfreithlon a dydych chi ddim am i ni ei ddileu.
- Lle rydych chi angen i ni gadw”r data hyd yn oed os nad ydym ni ei angen bellach gan fod angen i chi sefydlu, ymarfer neu amddiffyn hawliau cyfreithiol.
- Lle mae ein defnydd i”r data yn anghyfreithlon a dydych chi ddim am i ni ei ddileu.
- Rydych chi wedi gwrthod i ni ddefnyddio”ch data ond mae angen i ni ddilysu os oes gennym ni seiliau cyfreithlon i”w ddefnyddio.
Cais i drosglwyddo eich data personol i chi neu i drydydd parti. Byddwn yn darparu eich data personol i
chi, neu i drydydd parti o”ch dewis, ar ffurf strwythuredig, a ddefnyddir yn gyffredin a”i ddarllen ar gyfrifiadur/ Noder fod hyn ond yn gymwys i wybodaeth awtomataidd y rhoddoch gydsyniad cychwynnol i ni ei dde- fnyddio neu lle defnyddiwyd y wybodaeth i gyflawni contract gyda chi.