Rydym yn gobeithio ehangu ein Bwrdd drwy chwilio am aelodau newydd sydd â’r sgiliau, profiad neu/a diddordebau penodol yn y meysydd canlynol:
- Ariannol – gweithio gyda Phwyllgor Gweinyddol y Bwrdd i graffu ar lif arian, cyfrifon a materion eraill.
- Codi Arian – cynnig syniadau a chyngor ar ffynhonellau incwm potensial eraill ac addasrwydd y cwmni ar eu cyfer.
- Gweinyddol – gweithio gyda Phwyllgor Gweinyddol y Bwrdd i graffu ar faterion gweinyddol y cwmni.
- Cyfreithiol – cyngor a throsolwg cyfreithiol ar waith y cwmni.Noder mai’r iaith Gymraeg yw iaith gweinyddiaeth PYST Cyf ac mae ei holl gyfarfodydd Bwrdd a gohebiaeth Bwrdd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Noder mai’r iaith Gymraeg yw iaith gweinyddiaeth PYST Cyf ac mae ei holl gyfarfodydd Bwrdd a gohebiaeth Bwrdd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cadeirydd y Bwrdd yw Emily Roberts a’r Is-Gadeirydd yw Malachy Edwards. Gellir darllen mwy am y tîm a’r staff ynghyd ac amcanion a gwerthoedd y cwmni yma:
Rôl wirfoddol yw hon ond cynigir costau teithio lle bo hynny yn berthnasol. Cynigir tâl i weithwyr llawrydd. Mae’r Bwrdd yn cyfarfod yn chwarterol am 1-2 awr ar y tro (yn bennaf yn rhithiol) ac yn cynnwys un cyfarfod wyneb yn wyneb mewn ‘Away Day’ Bwrdd a Staff ar ddechrau’r flwyddyn.
Mae gan PYST Cyf werthoedd a nodau craidd sy’n adlewyrchu Cymru gynhwysol drwy ein ffyrdd o lywodraethu, cynnwys, gweithredoedd a phartneriaethau. I roi’r nodau hyn ar waith ymhellach rydym yn croesawu ceisiadau yn arbennig o sectorau o’r gymuned sydd heb gael cynrychiolaeth ddigonol yn hanesyddol ar lefel Bwrdd yn y sectorau creadigol a chelfyddydau: yn benodol pobl gyda nodweddion gwarchodedig, yn arbennig menywod, pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol, pobl traws ac anneuaidd, a phobl Byddar ac Anabl.
Os am sgwrs bellach am y cyfle hwn, cysylltwch ac alun@pyst.net.
PYST CYF
Mae Pyst Cyf yn gwmni nid-er-elw cyfyngedig syn rhedeg gwasanaeth dosbarthu a hyrwyddo cerddoriaeth PYST (www.pyst.cymru) ac Am – cartref digidol diwylliant Cymru (www.ambobdim.cymru)
Dechreuodd oes PYST / Am yn 2018 fel cwmni dosbarthu a hyrwyddo digidol cerddoriaeth cyntaf Cymru. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, datblygodd PYST yn gyflym ac mae bellach yn cynrychioli cymuned o dros 100 o labeli ac mae wedi bod yn gyfrifol am gynnydd enfawr mewn ffrydio cerddoriaeth o Gymru: dros 30 miliwn ffrwd y flwyddyn ar gyfartaledd, yn cynyddu nid yn unig broffil cerddoriaeth Cymru ond hefyd incwm ar gyfer labeli ac artistiaid Cymru.
Arweiniodd dealltwriaeth o arferion digidol defnyddwyr cerddoriaeth yng Nghymru at sefydlu Am ym mis Mawrth 2020 (tair wythnos cyn Covid!): platfform digidol cyntaf Cymru ar ffurf ap a gwefan – ar gyfer y Celfyddydau yng Nghymru. Wedi’i seilio ar yr un ethos â chydweithredu a chymuned, nodau cyntaf Am oedd hyrwyddo cynnwys digidol y sector Celfyddydau yng Nghymru a magu cynulleidfa ddigidol fyd-eang ar gyfer celfyddydau Cymru. Mae Am bellach yn gartref digidol i dros 450 o sefydliadau ac fe ail-lansiwyd a ail-frandiwyd y wefan ar ei phenblwydd yn 5 oed llynedd.
Mae PYST Cyf wedi tyfu ers 2018 gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru: yn y lle cyntaf fel cyllid ar y cyd rhwng Adran y Gymraeg a Cymru Greadigol, ac yn fwy diweddar drwy Cymru Greadigol. Mae’r cwmni hefyd yn derbyn ariannu aml-flwyddyn gan Gyngor y Celfyddydau am waith cymunedol Am. O ganlyniad mae’r cwmni bellach yn cyflogi pedwar aelod o staff llawn amser ac un aelod rhan-amser llawrydd dan arweiniad Alun Llwyd (Prif Weithredwr).
AMCANION PYST CYF
- Cynnig mynediad agored a hygyrch i’r celfyddydau i’r rhai sy’n creu a’r defnyddwyr fel ei gilydd, a hynny ar lefel gymunedol a chenedlaethol.
- Creu cyfleoedd cynaliadwy, cynhwysol i rymuso pobl greadigol yng Nghymru.
- Cydweithio i greu rhwydweithiau cefnogol newydd.
- Datblygu cynulleidfaoedd newydd er mwyn ehangu ymgysylltiad â’r celfyddydau yng Nghymru.