KIM HON – Milkshek

Mae Kim Hon wedi dod yn fand anarchaidd Cymreig eiconig sy’n creu hafoc mewn sîn sydd wedi dod yn hunanfodlon yn ddiweddar. Yn adnabyddus ledled Cymru am eu gigs egnïol, mae’r band wedi ymdrechu i fynd â’u sŵn Psych-roc Cymraeg i gynulleidfa ehangach, gyda eu alawon a’u synau sy’n chwalu ffiniau tra’n swnio’n gyfarwydd. Wedi ymddangos yn ddiweddar ar rhaglen Paranormal ar BBC Three gyda Sian Eleri (DJ BBC Radio 1). Mae ‘Milkshake’ yn drac oddi ar eu albym gyntaf, a gafodd ei ryddhau fis Tachwedd 2023 ar Recordiau Côsh.
Atgof – Eryrod Meirion

Perfformiad Eryrod Meirion o’i sengl, ‘Atgof’.
Geiriau: E. Prosser Rhys
Cainc/Trefniant: Gavin Ashcroft
Telyn: Dylan Cernyw
Cynhyrchydd sain: Ifan Jones – Drwm
Cynhyrchydd fideo: Dafydd Hughes – Amcan
Hyfforddwraig: Branwen Williams
Lleoliad: Neuadd Bentref Llangywer
Y Sioe Ffasiwn
Dyma bodlediad newydd sy’n drafod ffasiwn gan griw Colli’r Plot!
Trafod Gŵyl lenyddol Llandeilo, Gŵyl lenyddiaeth trosedd Aber, ffasiwn a chlustdlysau Gladiatrix, a llwyth o lyfrau.
Lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.
Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:
Y Brenin, y Bachgen a’r Afon – Mili Williams
Eigra – Eigra Lewis Roberts
We need new names – NoViolet Bulawayo
Fools and Horses – Bernard Cornwell
Pen-blwydd Hapus? – Ffion Emlyn
Blas y môr, John Penri Davies
Y Castell ar y Dŵr – Rebecca Thomas
The One Hundred Years of Lenni and Margo – Marianne Cronin
Parti Priodas – Gruffudd Owen
Ro’n i’n arfer bod yn rhywun – Marged Esli
Not That I’m Bitter – Helen Lederer
Coblyn o Sioe – Myfanwy Alexander
Cerdded y palmant golau – Harri Parri
Drew, Moo and Bunny, Too – Owain Sheers
Ten Steps to Nanette – Hannah Gadsby
The Rabbit Back Literature Society – Pasi Ilmari Jääskeläinen
Llais 2024

GŴYL GELFYDDYDOL RYNGWLADOL CAERDYDD
9 – 13 HYDREF 2024
Tocynnau YMA
Pennod 40 – Dyneiddiaeth Gymreig
Mae’r bennod hon yn cyflwyno pwnc a fydd yn ganolog i’r penodau nesaf hefyd, sef dyneiddiaeth yr unfed ganrif ar bymtheg. Gan fod gwrthryfel Glyndŵr wedi methu, nid oedd gan Gymru brifysgolion yn y cyfnod ac felly bu’n rhaid i’r Cymry breintieidig a oedd â digon o foddion i gael addysg prifysgol fentro y tu hwnt i ffiniau’u gwlad enedigol. Eglurwn ystyr y termau ‘dyneiddiaeth’ a’r ‘Dadeni Dysg’ (a nodi nad oedd neb yn eu defnyddio yn y cyfnod dan sylw!).
Er bod llawer o ddyneiddwyr ar draws Ewrop yn canolbwyntio ar ‘aileni’ cyfoeth yr hen ieithoedd clasurol (Lladin a Groeg), esgorodd dyneiddiaeth ar duedd ieithyddol arall – un sydd o’r pwys mwyaf o safbwynt hanes y Gymraeg, sef awydd i fireinio’r Hen Iaith a sicrhau’i bod hi’n gyfrwng sy’n addas er mwyn trafod a throsglwyddo dysg o bob math.
Comisiynau Bloeddiad Olaf Trawsgyweirio

Bloeddiad Olaf Am Chwech O’r Goreuon
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod chwe chomisiwn newydd wedi’u dyrannu i chwe cherddor ifanc anabl o banel Trawsgyweirio Celfyddydau Anabledd Cymru. Mae’r chwech a ddewiswyd yn cynrychioli pedwar prosiect ysgrifennu caneuon/recordio, un prosiect fideo ac un prosiect podledu. Bydd pob un ohonynt yn mynd i’r afael â’u profiad o fod yn berson creadigol anabl yn gymdeithas heddiw a’u profiadau personol, weithiau’n boenus, weithiau’n ddoniol. Maen nhw i gyd yn gerddorion ifanc hynod fedrus ac ni allwn aros i weld beth maen nhw’n eu creu.
Bydd pedwar o’r prosiectau yn cael eu harddangos mewn digwyddiad rhannu ar 06/06/24 am 18:00 gyda dehongliad IAP gan Claire Anderson.
Gŵyl Mabon Fest 2024

04/05/24 – Yn/at The Lion Hotel Treorci
Am ddim/Free
Dyma amserlen Gŵyl Mabon. Dewch i ymuno â ni am ddiwrnod llawn o adloniant a thalent Gymraeg!
Caitlin Flood-Molyneux

Mae Caitlin Flood-Molyneux yn artist cyfoes arobryn, a fagwyd yn Hwlffordd ac a raddiodd o raglen MFA Ysgol Gelf Caerdydd. Mae ei hymarfer artistig yn ymchwilio’r ffordd yr ydym yn cysylltu emosiwn a chof â delweddau o ddiwylliant poblogaidd, gan ddefnyddio technegau cyfrwng cymysg i fynegi profiadau goddrychol o galedi. Mae ei gwaith yn hynod bersonol a cyfanfydol, gan ei fod yn olrhain adegau allweddol o’i bywyd; stori weledol breifat ac enigmatig y mae’n gwahodd y gwyliwr i feithrin eu cysylltiad eu hunain â hi. Mae hi wedi arddangos ei gwaith yn eang ar draws y DU ac yn rhyngwladol ac wedi dangos gwaith yn Christie’s Auction House yn Llundain. Mae hi hefyd yn arweinydd gweithdai profiadol iawn. Trwy ei gwaith – fel artist ac addysgwr, nod Caitlin yw grymuso ac ysbrydoli pobl greadigol chwilfrydig gyda’r celfyddydau i weld gwneud celf fel arf ar gyfer twf a lles personol. Iddi hi, mae celf bob amser wedi bod yn ffordd o brosesu teimladau anodd ac mae ganddi gred enfawr yn ei phŵer therapiwtig.
Clwb Cymraeg

Ansicr am derminoleg Cymraeg LHDTC+? Eisiau’r eirfa i well disgrifio eich hun a’ch profiadau?
Clwb Cymraeg newydd i annog pobl cwiar i siarad yr iaith ydy Cwiars yn Clebran, wrth rannu geirfa ac iaith berthnasol i hunaniaethau a materion LHDTC+. Tri ddeg munud o ddysgu, wedi dilyn gan amser cymdeithasol i ganiatáu ac ysgogi chi defnyddio ac ymarfer eich Cymraeg.
Croeso i siaradwyr o bob lefelau mynychu – rhan gyntaf y noson, yr ail ran, neu’r ddwy!
C E L Λ V I – BITE MY TONGUE
C E L Λ V I – LULLΛBY
Pennod 39 – Y Gymraeg a Byd Newydd Print
Pennod 39 (cyfres 2, pennod 6)
Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar y datblygiad technolegol hollbwysig hwnnw, y wasg argraffu. O gofio mai trafod hanes llenyddiaeth Gymraeg yw nod y podlediad hwn, dylid gweld dyfodiad y cyfrwng hwn fel carreg filltir ryfeddol o drawsffurfiannol o safbwynt cynhyrchu a lledaenu llenyddiaeth.
Argraffwyd y llyfr Cymraeg cyntaf yn 1546, ac eglurwn y teitl-nad-yw’n deitl a roddir arno, sef Yn y Llyfr Hwn. Syr John Prys a oedd yn gyfrol am gynhyrchu’r gyfrol Gymraeg arloesol hon, ond nodwn ei fod yn gymeriad a oedd wedi helpu chwalu rhai o adnoddau llenyddol Cymru yn ogystal â bod yn gyfrifol am wthio’r iaith Gymraeg dros drothwy byd print.
Hel Clecs ( Lord Willin x Mr Phormula ) – “Say No More”
the new Hel Clecs E.P. “S.A.N.D” is out now !
Gŵyl Canol Dre 2024

Parc Myrddin, Caerfyrddin
6.7.24 | 11am – 9pm
Am ddim! Free!
Ffenast Siop

Ffenast Siop gan Iola Ynyr a Carys Gwilym
“Ma menopos ‘di rhoi sbectol o wirionedd yn sownd ar y nhrwyn i, jysd weithia ma hi’n stemio.”
Sioe un ddynes am Delyth yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn sgil y menopos.
Chwerthin, harthio, edliw a cholli deigryn – mi gewch chi’r cyfan.
Ymunwch â ni ar y daith arbennig hon, ac mae croeso i bawb, achos nid mater i ferched yn unig ydi’r menopos.
Meddai Iola: “Da ni’n dwy wedi dysgu bod chwerthin yn ffordd o lacio’r poen a’r ofn. Dyma gewch chi yn y sioe ac yn y sgwrs gobeithio!”
Ac i goroni’r cyfan bydd Mirsi hefyd yn ymuno â ni mewn sawl lleoliad ar hyd y daith i gynnal siop ‘pop up’ – felly dyma gyfle gwych i chi gael noson allan o chwerthin ymysg ffrindiau, i rannu profiadau ac i wneud mymryn o siopa.
Bydd hefyd cyfle i gymryd rhan mewn sgwrs greadigol anffuriol wedi ei arwain gan MWY mewn rhai o’r lleoliadau.
Beth allai fod yn well?
Canllaw oed 14+. Defnyddir iaith gref.
𝐂𝐚𝐬𝐭 – Carys Gwilym
𝐂𝐲𝐟𝐚𝐫𝐰𝐲𝐝𝐝𝐨 – Iola Ynyr
𝐂𝐞𝐫𝐝𝐝𝐨𝐫 – Osian Gwynedd
𝐓𝐞𝐜𝐡𝐧𝐞𝐠𝐲𝐝𝐝 – Llywelyn Roberts
𝐂𝐲𝐧𝐥𝐥𝐮𝐧𝐲𝐝𝐝 – Lois Prys
Pen-blwydd Hapus? gan Ffion Emlyn
Pen-blwydd Hapus? gan Ffion Emlyn yw Llyfr y Mis, mis Ebrill.
Mae Martha yn cael anrheg ar ei phen-blwydd yn 32 oed, newyddion sy’n ei gyrru hi ar daith fydd yn newid ei bywyd am byth.
Mae’r gomedi dywyll hon yn dilyn siwrnai mewn bws i Lundain, ar goll yng nghefn gwlad Caerfyrddin, wrth iddi guddio mewn camperfan ar draeth ym Mhorthmadog a chyfaddef i lofruddiaeth.
Yr awdur Ffion Emlyn sy’n rhoi blas o’r gyfrol.
Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.
Taran – Pan Ddaw’r Nos
Cyfarwyddwr: Cai Thomas
Ariannir y fideo drwy Gronfa Fideos Lŵp x PYST.
Cynrychioli Cymru: Carfan 2024 -25 | Representing Wales: 2024-25 Cohort

Mae hi’n adeg yna o’r flwyddyn unwaith eto! Mae 14 o awduron ar fin cychwyn ar ein rhaglen datblygu broffesiynol, Cynrychioli Cymru. Cafodd yr awduron eu dewis gan banel asesu annibynnol yn dilyn galwad agored yn ystod Hydref 2023 a ddenodd dros 100 o geisiadau.
Gweithdai Iaith Gymraeg | Welsh Language Workshops

Croeso i’r Gweithdai Iaith Gymraeg!
Intergreiddio diwylliant a iaith.
Ymunwch â ni yn BACCentre, 346 Stryd Fawr, Bangor.
Dydd Iau Ebrill 18 a Dydd Sul Ebrill 21. 4:45yh.
Clwb Cymraeg: Cwis

Mae’r cwis yn ôl, a’r tro yma mae ‘na GWOBR ARIANNOL! Ni fel Drag Race UK nawr!
Rhaid cyfaddef, mae yna wobr cash oherwydd rydym yn gofyn pob cyfrannydd i dalu £2.00 ac mae’r tîm buddugol yn cymryd yr holl gyllid ar ddiwedd y noson!
Transition with Anubis Finch

Mae ‘Transition’ yn ôl gyda gwestai arbennig Anubis Finch, seren trydydd gyfres RuPaul’s Drag Race UK!
Wedi’i gynnal gan yr anhygoel Justin Drag, bydd talent lleol Anniben ac Wan Long Kok hefyd yn perfformio ar y noson yma, sydd yn arbennig ar gyfer dathlu pobl traws, anneuaidd a rhyngryw!
Fel rhan o’r digwyddiad, byddwn hefyd yn lansio ein Cynllun Ailgylchu Rhwymydd! Os wyt ti’n dod a rhwymwr i’r siop cyn y digwyddiad, mi alli di gael tocyn i’r digwyddiad am ddim! Mi fyddi di hefyd yn gallu casglu rhwymydd wedi’u hailgylchu (a’u sychlanhau) yn Transition hefyd!
CARCHARDAI

Bocs, Canolfan y Mileniwm Cymru
25 – 28/4
12:00 – 16:00
Gig Candelas a Pys Melyn

Nos Sul/Sunday – 05/05/2024
7pm ymlaen
Tafarn y Plu – Llanystumdwy
18+
Noson Blŵs Osian Morris

Nos Sadwrn/Saturday – 11/05/2024
7.30pm ymlaen
AM DDIM / FREE
Tafarn y Plu – Llanystumdwy
Tacla

Nos Sul/Sunday – 26/05/2024
7pm ymlaen
AM DDIM / FREE
Tafarn y Plu – Llanystumdwy
Gig HMS Morris a Morgan Elwy

Nos Sadwrn/Saturday – 15/06/2024
7pm ymlaen
Tafarn y Plu – Llanystumdwy
18+
LLANffest – Gwyl gwrw a cherdd

25/05/2024
Tocyn £25
Ticedi ar Werth o Nos Wener 29.03.24 or Bar. Gynta i’r Felin.
Gŵyl Cefni 2024

Tocynnau Gŵyl Cefni 2024 ar werth / Tickets are for sale: Nos Wener/Friday – Dydd Sadwrn/Saturday
‘Da ni methu aros! Bacha dy docyn rwan i ymuno yn yr hwyl
Canol y Dref, Llangefni
07-08/06/2024
Swyddi yn Nhŷ Coffi Antur Stiniog

Hysbyseb Swyddi, Blaenau Ffestiniog.
Rydym yn gwahodd ceisiadau oddi wrth bersonau profiadol i gyfrannu at lwyddiant a gweledigaeth chyffroes Antur Stiniog Cyf.
Dyddiad Cau – 24/04/2024
Am sgwrs dewch draw i Tŷ Coffi Antur Stiniog neu ffoniwch Helen ar 01766832214
Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2024 | #Heddwch2024 | Peace and Goodwill Message

Eleni mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn dathlu ymgyrch arwrol Deiseb Heddwch Merched Cymru 1923-24, ac yn datgan yr angen i barhau gyda’r alwad am heddwch can mlynedd yn ddiweddarach.
Ganrif yn ôl, ar yr 19eg o Chwefror 1924, agorwyd cist Deiseb Heddwch menywod Cymru gyda’i 390, 296 o lofnodion o flaen 600 o fenywod yr Unol Daleithiau yn y Baltimore Hotel, Efrog Newydd.
Roedd y ddeiseb yn apelio am weld cydweithredu dros heddwch yn y byd, ac mae ei stori wedi ysbrydoli’r Urdd i annog criw o ferched ifanc i ddod at ei gilydd i lunio’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da eleni.
Mae’r neges yn datgan yr angen i weithredu ac i barhau i alw am Heddwch. Rhaid rhoi diwedd ar erchyllterau, rhyfeloedd a thrais, gan nodi’n glir y gall cydweithrediad, angerdd a gobaith ein harwain tuag at ddyfodol gwell.
Tafwyl 2024

13 – 14.07.24
Parc Biwt/Bute Park
Pennod 38 – Alis Wen
Pennod 38 (cyfres 2, pennod 5)
Trafodwn fardd benywaidd hynod ddiddorol yn y benod hon – Alis ferch Gruffudd neu ‘Alis Wen’, a fu’n canu yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. Dynion oedd beirdd proffesiynol y cyfnod, ond dysgodd Alis grefft barddoni a chyfansoddodd nifer o gerddi gan ddefnyddio un o’r hen fesurau caeth, yr englyn unodl uniawn. Mae’n debyg iawn mai ei thad, Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan oedd ei hathro barddol, a gwelwn fod ei pherthynas ungryw â’i thad yn bwnc dan sylw yn rhai o’i cherddi. Dyma lais barddol benywaidd prin sy’n amlygu teimladau gonest Cymraes am gariad, priodas a diswyliadau cymdeithasol. Er bod cymdeithas Cymru’r cyfnod yn ormesol o batrïarchaidd, gwelwn Alis yn protestio ac yn dymuno dilyn ei chalon yn hytrach nag ufuddhau i’r disgwyliadau hynny. Yn ogystal â mynegi’i barn a’i theimladau mewn modd di-flewyn-ar-dafod, mae’n gwneud hynny mewn modd rhyfeddol o ffraeth hefyd.
| təʊl | R&D film
Gwaith amlddisgyblaethol newydd ar gyfer offerynnau taro, a seined ymdrochol gan John Meirion Rea.
Cydwethrediad â’r Fonesig Evelyn Glennie.
HOSPES (4K, Binaural audio)
Mae’r gwaith yn ymchwiliad i gyfoeth diasporig y strydoedd sy’n amgylchynu’r ysbyty, a Chaerdydd yn fwy cyffredinol, a’i osod o fewn ei gyd-destun hanesyddol. Beth mae’r lleisiau sy’n cael sylw yn HOSPES yn ei ddweud am hunaniaeth a pherthyn yn ein Prifddinas heddiw?
PARADE
“Canol Dinas yw lle mae’r holl hen gofadeiladau, ond nid, gan amlaf, lle mae bywydau pobl….y canol yw lle wyt ti.” Guido Guidi.
Lleisiau pobl Cymru yw ysbrydoliaeth fy ngwaith creadigol. Hoeliwyd fy sylw ar natur felodig a gwead ein tafodieithoedd Cymraeg ac Eingl-gymreig brodorol, a’r ffordd y cânt eu hadlewyrchu yn amlinelliad ein tirwedd, yn wledig a dinesig. Gellir gweld yr agwedd hon yn PARADE, sef comisiwn Canfod Maendy/ Finding Maindee ar gyfer Llyfrgell Maendy, sef rhan o fenter Creu Cymunedau Cyfoes, Cyngor Celfyddydau Cymru.
Wrth greu PARADE, cwrddais â phobl a recordiais eu storïau, wrth ochr y sinematograffydd a ffotograffydd, Huw Talfryn Walters. Cyflwynais y deunydd verite yma yn ffurf gosodwaith sain amgylchynol, ac ymyrraeth sonig. Wrth wneud hyn, cyflwynais y gwirioneddau a thirweddau sy’n deillio o’r cyfarfodydd hyn, mewn cyfuniad â sain a delweddaeth haniaethol sy’n arwyddo a symboleiddio ystyr a synnwyr lle, a themâu hunaniaeth, perthyn, a Chenedligrwydd. Teimlais yn gryf y dylid cynnig llwyfan i’r bobl yma gael siarad.
CONCRÈTE: Site-Specific Installation and performance work.
Ni chafodd chwyldro’r ugeinfed ganrif mewn sain a cherddoriaeth ei ddangos ar y teledu, ond yn hytrach cafodd ei roi ar dâp, ei samplo, ei drin, a’i ddyfeisio o’r newydd; gan osgoi hen draddodiadau wrth chwilio am sawl Iwtopia sonig gyfoes.
Dyfeisiwyd technolegau recordio/electronig newydd gan rai. Fe wnaeth rhai eraill ymateb i sŵn, gan greu a chwilota ffurfiau cyfoes o fynegiant, a rhannu aflonyddwch yn y chwyldro sŵn-cerddoriaeth parhaus hyn a ddechreuodd yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, ac sy’n parhau i fod yn berthnasol.
Mewn ymateb i hyn, creodd John berfformiad sonig byw; yn wrogaeth ac yn deyrnged i Ddyfodolaeth, Adeileddiaeth Rwsiaidd, Bauhaus; a meddylwyr a chrewyr gwrthryfelgar fel Maurice Martenot, Léon Theremin, John Cage, Karlheinz Stockhausen, Cornelius Cardew, Luciano Berio, Edgard Varèse, Iannis Xenakis, Milton Babbitt, La Monte Young, Kraftwerk, Robert Moog, Don Buchla, Brian Eno, Gweithdy Radioffonig y BBC, John Zorn….
Yn yr hen ffatri arfau rhyfel, yn Dumballs Road, Caerdydd, fe gymerodd y Cyfansoddwr John Rea a’r Dylunydd Sain, Simon Jones ran mewn perfformiad sonig am un tro yn unig. Fe wnaeth y perfformiad drin cipio sain a thechnoleg cynhyrchu sain y gorffennol a’r presennol. Wedi hynny, rhoddwyd gosodwaith trwythol a grëwyd gan John yn y gofod hwnnw am weddill yr Ŵyl.
Atgyfodi (vb revive, vb resurrect). Arthur Morris Roberts and Capel Celyn.
Dyma glip o’r darn Atgyfodi yn cynnwys recordiadau o ardal Tryweryn, a chyfweliad hefo ffermwr lleol Arthur Morris Roberts, a welodd Capel Celyn yn boddi fel bachgen ifanc. Mae Atgyfodi yn cyfuno perfformiad byw, a gosodweithiau sain, wedi eu ysbrydoli gan archifau sain a ffotograffig Amgueddfa Sain Ffagan. Perfformiwyd y darn, ynghyd a’r gosodweithiau yn yr Amgueddfa ym Mis Hydref, 2018, ac yn Wyl Diffusion/Ffotogallery a Green Man ym 2019. Mae’r mix gwreiddiol yn ymdrochol, 5.1.
Cymuned Creadigol Chapter x Cardiff Print Workshop
Trac gan John Rea.
Dysgwch fwy am Cardiff Print Workshop yma.
Cymuned Creadigol Chapter x John Rea
Dysgwch fwy am waith John Rea yma
Gŵyl Rhuthun Festival 2024

Leinyp Top Dre 2024
Dyma leinyp llawn Top Dre eleni! Pwy ydych chi’n edrych ymlaen i weld mwyaf?
Dydd Sadwrn 29ain o Fehefin
1yh-8yh
£5 (plant am ddim)
Donna Brazier

Ein Hartist y Mis ar gyfer mis Ebrill yw Donna Brazier, artist gweledol sy’n archwilio themâu problemau iechyd meddwl trwy luniadau trawiadol mewn pen a phensil.
Pennod 37 – Hen Chwedlau Cymraeg a Phropaganda’r Tuduriaid: Elis Gruffydd (Rhan 2)
Pennod 37 (cyfres 2, pennod 4)
Wedi trafod natur ac arwyddocâd cronicl mawr Elis Gruffydd yn y bennod ddiwethaf, edrychwn y tro hwn ar nifer o straeon a gynhwyswyd yn y gwaith sydd o ddiddordeb neilltuol. Mae’n bosibl edrych ar y straeon hyn fel chwedlau gwerin Cymraeg nas cofnodwyd mewn unman arall – hanesion a glywodd Elis ar lafar pan oedd yn blentyn yn sir y Fflint a/neu straeon a welodd mewn llawysgrifau Cymraeg sydd bellach wedi diflannu. Diolch i Elis mae gennym y fersiwn cynharach sydd goroesi o ddwy stori gysylltiedig sy’n darlunio hanes y bardd arallfydol Taliesin, naratifau llawn hwyl sydd hefyd yn dweud llawer am y modd y canfyddai’r Cymry rym barddoniaeth.
Sylwn hefyd ar chwedl sy’n darlunio’r Brenin Arthur fel merchetwr hunanol eiddigeddus. Ac yntau’n filwr ffyddlon ym myddin Harri VIII, cofnododd Elis nifer o chwedlau’n ymwneud â ‘hanes’ y Tuduriaid hefyd, gan gynnwys un sy’n dyrchafu Harri VII fel ‘y mab darogan’ ar draul Owain Glyndŵr, stori gariad sy’n egluro tarddiad y teulu, ac un am y brudiwr o fardd Rhobin Ddu a broffwydodd am enedigaeth Harri Tudur.
Llais y Lle 2023

Lansiwyd Llais y Lle yn 2023 i gefnogi unigolion creadigol i ddatblygu defnydd a pherchnogaeth y Gymraeg drwy weithio gyda chymunedau. Roedd rhai o brosiectau’r llynedd yn amrywio o ŵyl i ddathlu merlod gwyllt y Carneddau, i astudiaeth o rôl yr iaith yn Nhrebiwt; a gweithdai creadigol i bobl ifanc yn Sir Drefaldwyn.
GRIEF
Ymdeimlad a brofir gan lawer ond na chaiff ei drafod bob amser.
Mae GRIEF yn paentio darlun o’r tudalennau a’r camau rydyn ni’n mynd trwyddynt wrth wynebu’r agweddau sy’n ffurfio galar. Trwy gerddoriaeth wreiddiol wedi’i gyfansoddi gan Francesca Amewudah-Rivers, symudiad wedi’i goreograffi a’i berfformio gan Arnold Matsena, a geiriau wedi’u hysgrifennu a’u perfformio gan Connor Allen, mae GRIEF yn archwilio effaith colled o safbwynt y corff. Mae’n archwiliad corfforol agos atoch o ymdopi’n barhaus â’r egni a’r emosiwn sy’n cyd-fynd â galaru.
Cerddoriaeth wedi’i chyfansoddi a’i chynhyrchu gan // Music Composed and Produced by – Francesca Amewudah-Rivers
Testun wedi’i ysgrifennu a’i berfformio gan // Text Written and Performed by – Connor Allen
Cyfarwyddwyd gan // Directed by – Connor Allen and Francesca Amewudah-Rivers
interbeing
Mae interbeing, term a grëwyd gan y meistr Zen a gweithredwr heddwch, Thich Nhat Hanh, yn mynegi bodolaeth gysylltiedig pob peth. Yn deillio o’r term hwn, mae’r interbeing yn gollage operatig arbrofol sy’n archwilio perthynas dynoliaeth â’r tir ac, yn benodol, sut mae ein gweithredoedd yn effeithio ar yr amgylchedd. Mae’n awgrymu bod popeth yn bodoli mewn cyflwr o fod yn gysylltiedig, wedi’u gweu gyda’i gilydd ac yn ddibynnol ar ei gilydd. Gan ddefnyddio’r cysylltiad corfforol rhwng tir a chorff fel motiff gweledol a sonig, mae’r opera hon yn gwasanaethu fel galwad i weithred.
Cerddoriaeth // Music – Simmy Singh
Libretto a Delweddau // Libretto and Visuals – ASHA
GIG KLUST 05

Bydd Mellt, Half Happy, Siula a Melfed Melys yn chwarae yn Victoria Dalston, Llundain ar y 3ydd o Fai!
Tocynnau ar werth dydd Gwener am 10AM via klustmusic.com.
Creative Health Marketplace – Casnewydd/Newport

17-04-2024
13:30-15:00
The Place, Newport
Mae ein Marchnadoedd Celfyddydau ac Iechyd yn ddigwyddiadau rhwydweithio rhanbarthol i gydweithwyr yn y celfyddydau, iechyd a’r trydydd sector sy’n dymuno gwella cysylltiadau a llwybrau atgyfeirio i mewn i brosiectau creadigol.
Dewch i gwrdd â chydweithwyr o bob rhan o’r wlad sydd â diddordeb yn y celfyddydau, iechyd a llesiant. Byddwn yn cael rhai cyflwyniadau byr gan gydweithwyr cyn rhannu’n grwpiau bach ar gyfer rhwydweithio.
Tocynnau ar gael yma.
Caernarfon – Iola Ynyr
Dychmygu, creu a byw yn fwy
Prosiect creadigol i ferched dros 18 oed i hyrwyddo llesiant yn y Gymraeg yn Porthi Dre, Caernarfon hefo Sioned Medi Evans a Iola Ynyr.
Ein bwriad yw:
Meithrin cyfleon i ddefnyddio ein creadigrwydd i ddychmygu gwell dyfodol i’n hunain, eraill a’r amgylchfyd heb ofn a hynny yn y Gymraeg
Casglu syniadau, trafod, ysgrifennu a chreu delweddau
Cynnig croeso i ddysgwyr Cymraeg
Darganfod y fersiwn fwyaf disglair ohonom ein hunain
Rhaglen drwy’r flwyddyn gyda’r cynnig i alw fel sy’n gyfleus
Mwy o wybodaeth – Nia Skyrme, Cynhyrchydd.