Cartref digidol diwylliant Cymru.

Prif Enillydd – Sut i ddofi Corryn, Mari George (Sebra)

Stori Muriel sydd yma, a’i thaith arwrol i geisio cael gwellhad i’w gŵr, Ken. Maen nhw’n bâr priod yn eu pedwardegau pan gaiff Ken wybod ei fod yn marw o ganser. Ond dechrau’r daith yw’r Muriel ifanc, tair ar ddeg oed, pan ddaw hi o hyd i’r llyfr hynafol, Llyfr Corynnod y Mwmbwls… Bydd y nofel hon yn mynd â chi ar daith anturus wrth i Muriel geisio dod o hyd i atebion. Ond mae rhaid iddi wynebu ei phryderon a’i hofnau mwyaf yn gyntaf, ac i wneud hynny, mae’n rhaid iddi dorri’n rhydd oddi wrth y gweoedd hynny sy’n ei chlymu’n saff.

Anfadwaith, Llŷr Titus (Y Lolfa)

Nofel ffantasi dywyll sy’n plethu dirgelwch, trosedd a byd llawn dychymyg.

Cyfraith a threfn ydi pwrpas y Gwigiaid byth ers i’r Derwyddon eu tynnu i’r byd ac er bod y rheiny’n hen hanes erbyn hyn, mae rhai o’r Gwigiaid yn dal i grwydro’r teyrnasoedd yn chwilio am droseddwyr. Er bod Ithel wedi gweld pob math o bethau rhyfedd ac ofnadwy, mae eu hachos diweddaraf y tu hwnt i hynny i gyd ac mae rhywrai, neu rywbeth, wrthi’n cynllwynio yn y cysgodion.

All Ithel ac Adwen ddod at wraidd pethau cyn ei bod hi’n rhy hwyr? Ar daith beryglus mae’r Gwigyn a’r porthmon yn dod i ddeall ei gilydd yn well ac yn dysgu bod mwy mag un math o anfadwaith ar ben y daith.

Prynwch yma.

Raffl – Aled Jones Williams (Gwasg Carreg Gwalch)

Yn Hydref 2021 cyhoeddodd Gwasg Carreg Gwalch gyfrol o straeon byrion gan Aled: Tynnu. Ymestyn i’r un cyfeiriad yw’r nod yn y gyfrol hon.

Meddai’r awdur: “Nid wyf erioed wedi bod yn or hoff o realaeth. Ac o ddydd i ddydd rhowch i mi’n wastad y rafin o flaen y ddynes dda neu’r dyn da. Os oes gennyf bwnc, amwysedd moesol yw hwnnw. Rhywle ymhlith hyn y bydd y storïau newydd hyn yn tindroi.

Mae pethau eraill. Ers tro’n byd rwy’n ymwybodol fod rhai pethau a fu’n bwysig i mi yn dyfod i ben. Ni welaf yng Nghymru unrhyw ddyfodol i Gristnogaeth, er enghraifft. Fy arswyd nad yw’r iaith Gymraeg mor ddiogel ag a fynn rhai.

Gwynt teg ar ôl ambell beth: byddwn wrth fy modd medru dweud fod cyfalafiaeth ar fin diflannu gyda’r chwaer hyll

Torïaeth ar ei hôl. Ond nid felly mae hi. Teimlaf fod egin rhyw newydd-deb ar ddod. Nid o angenrheidrwydd yn ddaionus.

Wedi’r cyfan, mae’r newid hinsawdd yma’n barod. Mae pethau’n chwalu. O’r ymdeimlad yma o chwalfa y daw’r storïau hyn. Bydoedd gwyrgam sydd yma. A pobl sy’n dyllau i gyd heb ruddin.”

Prynwch yma.

Gŵyl Undod | Unity Festival 2024

Gŵyl Undod Hijinx yw un o wyliau celfyddydol cynhwysol mwyaf Ewrop, a’r unig un o’i math yng Nghymru. Mae Gŵyl Undod yn ôl eleni, 3 – 7 Gorffennaf yng Nghaerdydd, gyda chwaer ddigwyddiad yn Chapter yng Nghaerdydd (4 – 6 Gorffennaf), yn ogystal â rhaglenni cysylltiol ym Mangor (27 Mehefin) a Llanelli (29 Mehefin). 

Eleni, bydd y rhaglen gyforiog o ddigwyddiadau, sy’n dod â rhai o’r celfyddydau a theatr cynhwysol ac anabledd gorau o bob rhan o’r byd at ei gilydd, yn digwydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac o’i chwmpas 3 – 7 Gorffennaf. 

Darganfyddwch fwy ar ein gwefan! https://www.hijinx.org.uk/cy/gwyl-undod-2024/

Cyd Ynni (Amdanom Ni)

Beth rydym yn gwneud Mae Cyd Ynni yn gonsortiwm o 5 grŵp cymunedol yng Ngwynedd sydd wedi dangos llwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf wrth ddarparu prosiectau ynni a chymunedol: Egni Mynydd, Ynni Padarn Peris, Ynni Anafon, Ynni Ogwen a Moelyci. Mae pob un o’r grwpiau wedi gwneud cynnydd sylweddol – weithiau mewn amgylchiadau anodd – […]

Fiction – The Unbroken Beauty of Rosalind Bone – Alex McCarthy (Doubleday)

Tucked into the Welsh valleys and encircled by silver birch and pine, the village of Cwmcysgod may appear a quiet, sleepy sort of place. But beneath the surface, tensions simmer, hearts ache, and painful truths threaten to emerge.

Sixteen-year-old Catrin Bone knows only what she has been told. Now, she is beginning to question her small world, and a version of the past that seems to entrap and embitter her reclusive mother, Mary.

The sins of the past are approaching, for it takes a village: to raise a child, to bring down a woman, to hide something monstrous and to look the other way.

In this tender, sly, exquisitely wrought novella, a unique cast of characters give voice to their versions of the truth. But it is the story of Rosalind Bone, of her strength and of all that she has endured, that rises above the rest, shimmering with hope and possibility…

Stray Dogs, Richard John Parfitt (Third Man Books)

Turner is a high school dropout newly arrived in Toronto. After taking a job selling dictionaries for a local grifter named Romeo Silva, the day goes wrong, and Turner gets into a fight with a biker. On the run from both Romeo and the Devil’s Children, Turner and his pals find an abandoned summerhouse in which to hide out. But tensions within the group damage personal relationships as external threats converge to destroy the lives they had

Neon Roses, Rachel Dawson (John Murray)

Eluned Hughes is stuck. It’s 1984 in a valley in south Wales: the miners’ strike is ravaging her community; her sister’s swanned off with a Thatcherite policeman; and her boyfriend Lloyd keeps bringing up marriage. And if they play ’99 Red Balloons’ on the radio one more time, she might just lose her mind.

Then the fundraising group Lesbians and Gays Support the Miners comes down from London, and she meets June, a snaggle-toothed blonde in a too-big leather jacket. Suddenly, Eluned isn’t stuck any more – she’s in freefall.

June’s an artist and an activist. With June, Eluned can imagine a completely different life for herself. But as her family struggles with the strike, and her relationship with her sister deteriorates, should she really leave it all behind?

From the Valleys to the nightclubs of Cardiff, London and Manchester, NEON ROSES is a heartwarming, funny and a little bit filthy queer coming-of-age story with a cracking ’80s soundtrack.

Pen Llŷn: O Gynulliadau i Weithredu

Mae’r fideo yma yn edrych yn ôl ar y Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd ym Mhen Llŷn, gyda cipolwg o beth sydd wedi bod yn digwydd ers hynny, ac edrych ymlaen i’r dyfodol. Mwy o wybodaeth isod!

Dyffryn Peris: O gynulliadau i weithredu

Mae’r fideo yma yn edrych yn ôl ar y Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd yn Nyffryn Peris, gyda cipolwg o beth sydd wedi bod yn digwydd ers hynny, a golwg o beth sydd ar y gweill!

Dyffryn Ogwen: O Gynulliadau i Weithredu

Mae’r fideo yma yn edrych yn ôl ar y Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd yn Nyffryn Ogwen, gyda cipolwg o beth sydd wedi bod yn digwydd ers hynny, a golwg o beth sydd ar y gweill! 

Leila Bebb

Artist y Mis ar gyfer mis Mehefin yw Leila Bebb!

“Rydw i’n byw yn Abertawe ac mae gen i stiwdio mewn Elysium yn agos i fy fflat. Rydw i’n gweithio mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys arlunio, peintio a gwau. Mae’r tirlun, arlunio o fywyd, ac anifeiliaid yn cynnwys gorilaod ac adar ffantastig yn fy ysbrydoli fi. Mae gwaith Pablo Picasso a Jackson Pollock yn cael dylanwad arnaf i. Rydw i’n caru lliw ac yn fy stiwdio rydw i’n gweithio o’r darluniau trwy ddefnyddio peint acrylig neu wlân lliwgar llawn gweadau ar gyfer y darnau gwau. Mae’r gwaith yn aml yn haniaethol ei natur. Rydw i hefyd yn ddawnsiwr ac yn ysgrifennwr ac rydw i’n dosbarthu fy ngwaith rhwng ysgrifennu, dawnsio a gweithio yn fy stiwdio.”

Ar hyn o bryd mae Leila yn arddangos gwaith yn yr Arddangosfa Tecstilau Rhyngwladol: Cofio’r Gorffennol: Creu’r Dyfodol yn Oriel Queen Street, Castell-nedd. Mae’r arddangosfa yn cynnwys dros 80 o weithiau celf tecstilau o 13 o wledydd gwahanol ac mae’n rhedeg o 17 Mai – 15 Mehefin 2024.

Pennod 42 – Bromance William Salesbury a Gruffudd Hiraethog

Gwelwyd yn y bennod ddiwethaf fod y dyneiddiwr William Salesbury yn talu teyrned i’r bardd Gruffudd Hiraethog yn ei ragymadrodd i’r llyfr Oll Synnwyr Pen Cymro. Edrychwn ar ochr arall y geiniog yn y bennod hon, a hynny wrth i ni ddarllen cywydd o fawl a gyfansoddodd Gruffudd Hiraethog i’r dyneiddiwr. 

Er ein bod ni weithiau yn gweld y beirdd Cymraeg proffesiynol a’r dyneiddwyr fel dwy garfan o Gymry llengar a oedd yn cystadlu ynghylchs dyfodol yr iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth, mae’r berthynas gyfeillgar ac adeiladol rhwng y ddau hyn yn cynnig golwg eithaf gwahanol. Gwelwn y bardd yn addasu hen gofensiynau’r canu mawl er mwyn canmol yr addysg a gafodd y dyneiddiwr yn Rhydychen, gan gynnig enghraifft wych o’r modd y mae’r hen a’r newydd yn ymgymysgu yn llenyddiaeth Gymraeg yr unfed ganrif ar bymtheg.

BERIAN – DSD

‘DSD’, fy sengl cyntaf, allan nawr / My debut track, ‘DSD’, out now via UNTRO.

Cyfarwyddwr / Director : Aled Victor

Ariannir gan / Funded by : Cronfa Fideos Lwp x PYST Music Video Fund

Y Delyn Aur, Malachy Owain Edwards (Gwasg y Bwthyn)

“Mae hunaniaeth yn gwestiwn.
Perthyn yn emosiwn.
A chenedl yn stori rydym yn ei rhannu’n gyffredin.”

Dyma gofiant unigryw yn y Gymraeg gan awdur ifanc sy’n ein tywys ar daith ddadlennol a phersonol. Mae Malachy Edwards yn wynebu ei hunaniaeth hil-gymysg, aml-ddiwylliedig a chrefyddol wrth iddo olrhain hanes ei deulu yn Iwerddon a Barbados.

Yn gefndir i’r gyfrol mae ein hanes diweddar ni, yn cynnwys Brecsit a Covid-19.

Mae’r awdur yn ysgrifennu’n onest am brofiadau mawr ei fywyd fel geni ei blant a cholli aelodau teulu agos, ceisio am ddinasyddiaeth Ewropeaidd a’i brofiadau fel Cymro Du Cymraeg.

Bydd y gyfrol arbennig hon yn eich annog i feddwl.

Barn y Bobl – Trothwy, Iwan Rhys (Y Lolfa)

Myfyrdodau cynnes y bardd ac awdur, Iwan Rhys, wrth iddo groesi sawl trothwy mewn bywyd ywTrothwy. Mae’r gyfrol yn trafod perthyn ac adnabyddiaeth gyda ffraethineb wrth i’r prif gymeriad geisio cael ei dderbyn yn niwylliant y dafarn leol yng Nghaernarfon ac ym Merlin, yn ogystal ag ym mywydau meibion ei bartner newydd. Mae’r gyfrol yn plethu cynhesrwydd bywyd teuluol gydag agweddau rhyngwladol, wrth iddo gynnwys golwg Cymro ar Berlin, a phrofiadau teulu teirieithog ac aml genedl.

Ffeithiol Greadigol – Cranogwen, Jane Aaron (Gwasg Prifysgol Cymru)

Yn oes Fictoria, ystyriwyd menywod yn anaddas ac anabl ar gyfer pob arweinyddiaeth gyhoeddus a deallusol. Ond llwyddodd Cranogwen, sef Sarah Jane Rees (1839-1916) o Langrannog, i ennill parch ac enwogrwydd fel bardd, darlithydd, golygydd, pregethwraig, dirwestwraig ac ysbrydolwraig to newydd o awduron a merched cyhoeddus. Nod y gyfrol hon yw dilyn ei thrywydd er mwyn deall pam a sut y cododd benyw ddibriod o gefndir gwerinol i’r fath fri a dylanwad ymhlith Cymry’i hoes. Teflir goleuni newydd hefyd ar ei bywyd carwriaethol cyfunrywiol a’i syniadau arloesol ynghylch rhywedd.

Cyhoeddwyd dwy gyfrol fywgraffiadol arni’n flaenorol, yn 1932 ac yn 1981, ond oddi ar hynny mae twf y mudiad ffeminyddol wedi ysgogi llawer astudiaeth – ar awduron benywaidd a lesbiaid y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac ar wragedd mewn cymunedau morwrol, er enghraifft – sy’n berthnasol iawn i’w hanes. Yng ngoleuni’r holl ddeunydd ychwanegol hyn, ceir yn y gyfrol hon ddarlun newydd o’i bywyd a’i dylanwad.

Digwyddiad Rhannu Comisiynau Trawsgyweirio | Modulate Commission Sharing Event

Dyddiad: 06/06/24

Amser: 18:00-19:00

IAP: Claire Anderson

Capsiynau: Mirella Fox

Cofrestrwch yma.

Ymunwch â ni i glywed am y pedwar prosiect cerdd a gomisiynwyd gan bedwar cerddor ifanc talentog yn ymateb i alwad gennym ni i “Deall y profiad byw o fod yn gerddor/person anabl yng Nghymru yn y byd cyfoes. Mae’n ymwneud â sut mae hi i chi yn y presennol.” ac mae rhai themâu cyffredin yn y modd y maent wedi ymateb i hyn ac mae rhai wedi manteisio ar y cyfle i ehangu ar ei waith.

Dewch draw i ddarganfod beth sy’n cysylltu’r pedwar artist hyn sydd ag arddulliau a dulliau gwahanol iawn o wneud cerddoriaeth yn ogystal â phrofiadau unigol iawn o fod mewn diwydiant sy’n dal i analluogi cerddorion ifanc talentog oherwydd eu bod yn digwydd bod â nam neu ddau.

Cysylltwch am fwy o wybodaeth: rachel@dacymru.com neu nye@dacymru.com

BWTCH

Priya from I Kissed A Girl

Rachel Dax from LezDiff Film Festival

and Leila Navabi, comedy legend 


22/06/2024 – 8pm

Tickets


Chwarae’r Chwedlau: Cabaret

05/07/2024 – 7.30pm

Tocynnau / Tickets – £8.00

Mae Chwarae’r Chwedlau: Cabaret nôl am yr haf! 

Rydym yn ffodus i gael nifer o berfformwyr sydd am rhoi go ar berfformio yn y Gymraeg am y tro cyntaf!

Noson o gabaret gyda lein-up cwbl newydd, bu’r sioe yn cynnwys cerddoriaeth, drag, dawns, barddoniaeth a dawnsio polyn!

Ar y noson, byddwn yn casglu eitemau celf a chrefft am Impact LGBTQ+, felly plîs dewch a chynfasau, peint, pennau a mwy! Hefyd, os oes gennych chi deganau fidget hefyd, bydd y grŵp yn hynod o werthfawrogol oherwydd nag oes llawer gyda nhw! 

Plîs prynwch docynnau pryd medrwch oherwydd mae gwerthu tocynnau i nosweithiau cwiar, Cymraeg medru bod yn galed, a hefyd mae’n helpu lleddfu’r gor-bryder!

Lein-yp:

  • Daniel Huw Bowen
  • Biwti
  • Haris Hussnain
  • Lauren Owen
  • The Supreme Diva
  • TeiFi
  • Catrin Feelings

Balchder Caernarfon Pride 2024

29/06/2024

Croeso i bawb – ymunwch â’r dathliad! 

Gorymdaith yn cychwyn am 1pm

Gig prynhawn: Llety Arall – drysau am 3pm (am ddim!)

Gig Nos: Yr Hen Lys – drysau am 6.30pm – tocynnau ar y drws £2, 16+

Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter

Yn Eisteddfod yr Urdd, Maldwyn cyhoeddwyd mae Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter yw enillyd categori uwchradd Gwobrau Tir na n-Og 2024. Cyhoeddwyd y gyfrol gan Y Lolfa. 

Dyma nofel yw am greu cyfeillgarwch, am deithio’n ôl ac ymlaen mewn amser, am dyfu i fyny mewn byd cymhleth ac anodd, ac am wthio ffiniau’r dychymyg i’r eithaf. 

Dywedodd Megan Angharad Hunter: “Does ’na ddim geiria sy’n gallu esbonio gymaint ma’r anrhydedd hwn yn ei olygu i fi. Fel plentyn ac yn ystod fy arddegau, ro’n i wastad yn cadw llygad ar Wobrau Tir na n-Og felly mae ei hennill, a hynny am lyfr sy mor agos at fy nghalon – yn brofiad bendigedig o swreal.

Bysa llyfr fel Astronot yn yr Atig wedi bod yn gysur mawr i fi pan o’n i’n yr ysgol felly gobeithio y bydd hi’n gysur i blant Cymru heddiw hefyd, ac yn mynd â nhw ar antur gyffrous a dychmygus ar draws y gofod! 

Mae Gwobr Tir na n-Og mor bwysig achos dydi llyfrau plant ddim yn cael hanner digon o sylw, yn enwedig rhai Cymraeg gwreiddiol, sy’n eironig iawn achos mae angen darllenwyr iau i sicrhau y bydd ’na ddarllenwyr Cymraeg sy’n oedolion yn nes ymlaen! Ma ’na lot o resyma pam dwi’n meddwl fod llyfrau plant yn bwysicach, o bosib, na rhai oedolion – ond dyma un ohonyn nhw.” 

Yr awdur Megan Angharad Hunter sy’n rhoi blas o’r gyfrol.

Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.

Jac a’r Angel gan Daf James

Yn Eisteddfod yr Urdd, Maldwyn, cyhoeddwyd mae Jac a’r Angel gan Daf James yw enillydd categori cynradd Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2024. Cyhoeddwyd y gyfrol gan Y Lolfa. 

Dyma nofel ddoniol, annwyl a theimladwy. Mae Jac a’r Angel yn stori Nadoligaidd hwyliog. Bydd oedolion a phlant yn gallu mwynhau stori’r bachgen diniwed sy’n defnyddio ei ddychymyg i oresgyn galar a grymoedd tywyll bywyd. 

Dywedodd Daf James: “Ers i fi fedru darllen yn blentyn, dwi wedi bod yn ymwybodol o wobrau Tir na n-Og, gan fod cynifer o’r awduron ro’n i’n eu mwynhau wedi ennill y wobr: awduron fel T. Llew Jones, J. Selwyn Lloyd, Irma Chilton, Gwenno Hywyn, Penri Jones, Jenny Nimmo… mae’r rhestr yn hirfaith! Mae’n wobr hollbwysig sy’n dathlu ac yn tynnu sylw haeddiannol at lyfrau plant a phobl ifanc, ac mae cael ymuno â rhestr o arwyr llenyddol fy mhlentyndod yn gwireddu breuddwyd fawr i mi. 

Er mai dramodydd ydw i gan amlaf, llyfrau – nid dramâu – oedd fy angerdd llenyddol cyntaf. Roedd cael dianc i fyd y stori yn falm i’r enaid pan on i’n grwtyn bach ecsentrig, a dwi wedi ysu am gael sgwennu nofel ers hynny. Dod yn dad nath fy ysgogi i fwrw ati – ro’n i eisiau sgwennu stori i’m plant – ac felly dwi’n diolch o waelod calon iddyn nhw am fod yn ysbrydoliaeth; ond hefyd dwi’n ddiolchgar i’r awduron hynny a ddaeth o’m blaen, ac a wnaeth i fi gredu, fel Jac yn Jac a’r Angel, bod unrhyw beth yn bosib pan fo’r dychymyg ar dân.”

Dyma Daf James yn darllen detholiad o’r gyfrol.

Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.

Yws Gwynedd – Bae

Sengl Dawns Indi hafaidd newydd gan Yws Gwynedd wedi’i gynhyrchu a’i recordio gan yr amryddawn Rich James Roberts, sydd hefyd drymio i’r band. Mae’r trac yn enghraifft fywiog o naws cerddorol y band a’r cynhyrchydd. Mae Balafon N’famady Kouyate yn ymddangos ar y recordiad hefyd, a hon yw sengl cyntaf y band ers mis Awst y llynedd.

Mae Bae yn dapestri cyfoethog o sain sy’n cyhoeddi’r albwm sydd i ddod, fydd yn cynnwys set llawn o draciau, sydd wedi’i recordio dros gyfnod o 2 flynedd. Mae’r albwm hir-ddisgwyliedig, gyda dyddiad rhyddhau wedi’i osod cyn diwedd y flwyddyn. 

I gyd-fynd a’r sengl, dyma fideo sydd yn wledd weledol ac yn serennu Saran Morgan a Gwion Morris Jones.

Anturiaethau’r Brenin Arthur gan Rebecca Thomas

Anturiaethau’r Brenin Arthur gan Rebecca Thomas yw Llyfr y Mis i Blant. 

Pwy yw’r arwr sydd ei angen ar Gymru heddiw? Mae criw o blant o Fannau Brycheiniog yn meddwl eu bod nhw’n gwybod yr ateb! Tasg ddigon syml yw dod o hyd i’r Brenin Arthur, ei ddeffro a’i berswadio i’w helpu i achub y byd. Ond does neb yn barod am yr antur fydd yn dilyn… 

Dyma drydedd nofel Rebecca Thomas. Ysgrifennwyd y nofel yn ystod ei chyfnod fel Awdur Preswyl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, preswyliad i weithio ar brosiect creadigol yn ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur. Fel rhan o broses, bu Rebecca yn cynnal gweithai gyda disgyblion ysgolion lleol.

Yr awdur Rebecca Thomas sy’n darllen detholiad. 

Ar gael o’ch siop lyfrau leol.

Mae Bywyd Yma – Guto Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch)

Mae’r cywaith hwn rhwng y bardd Guto Dafydd a’r ffotograffydd Dafydd Nant yn ddathliad dau ffrind o’u cynefin yn Llŷn. Yn y cerddi a’r lluniau gwelir harddwch y fro, ac eir i’r afael â’i threftadaeth amrywiol – y morwrol a’r diwydiannol, y crefyddol a’r diwylliannol, y cymunedol a’r teuluol. Mae’r cyfanwaith yn dangos bod modd gwerthfawrogi holl gyfoeth cymhleth bywyd yn Llŷn.

Prynwch yma

Barddoniaeth – Mymryn Rhyddid, Gruffudd Owen (Cyhoeddiadau Barddas)

‘A ninnau’n blino awn yn ein blaenau…’

Dyma gyfrol sy’n pendilio rhwng y dwys a’r digri, rhwng sinigiaeth a thaerineb, ac sy’n plethu angst ieithyddol trwy gerddi am deulu, bod yn dad a bod yn Gymro. Mae tynfa barhaus rhwng magwrfa bardd ym Mhwllheli a’i fywyd yng Nghaerdydd yn ogystal â’r ‘bwlch siâp Duw’ sy’n waddol i’r fagwraeth honno. Er gwaethaf hyn, mae gwreichion o hiwmor a gobaith drwy’r cyfan; y gobaith anodd hwnnw o wybod – er bod pethau’n anodd – bod yn rhaid parhau.

Ara Deg 2024

Neuadd Ogwen, Bethesda

Dydd Iau 22/8 7yh
DAS KOOLIES
GROUP LISTENING

Dydd Gwener 23/8 7yh
BILL RYDER-JONES

Dydd Sadwrn 24/8 o 10yb

  • 10:00 – Ffair recordiau, llyfrau, dillad a brecwast
  • 11:00 – Ffilm PANDORA’S BOX gyda thrac sain byw gan PAT MORGAN ac ALAN HOLMES

  • 15:00 STRAWBERRY GUY + cefnogaeth i’w gadarnhau (Capel Jerwsalem)

  • 17:00 – DJ DON LEISURE (Fic)

  • 19:00 – Hwyr

  • MERCHED LLOERIG

  • FFLAPOGRAM

  • GRUFF RHYS

  • DJ DON LEISURE

  • DJ ANDY VOTEL

Tocynnau penwythnos ar gael yma

BERIAN – DSD

Mae sengl gyntaf y cynhyrchydd, BERIAN, allan nawr drwy UNTRO!

Bydd y fideo yn cael ei ddangos am y tro cyntaf cyn pob dangosiad o’r ffilm ‘Hoard’ yn Chapter fis yma. Archebwch eich tocyn yma.

Pennod 41 – Maniffesto William Salesbury

Trafodwn destun hynod gyffrous yn y bennod hon, sef rhagymadrodd William Salesbury i lyfr a gyhoeddwyd yn 1547, Oll Synnwyr Pen. Awgrymwn y gellid gweld y rhagymadrodd hwn fel maniffesto dyneiddiol Cymraeg, galwad sy’n cyflwyno agenda er mwyn diogelu a mireinio’r iaith. 

Defnyddiodd William Salesbury yr addysg a gafodd yn Rydychen a’i allu fel awdur i ddeffro darllenwyr a’u gwneud yn ymwybodol o’r angen: roedd yn rhaid sicrhau bod y Gymraeg yn iaith dysg, yn iaith y gallai drafod unrhyw agwedd ar gymdeithas a meddwl, yn gyfrwng a allai drosglwyddo unrhyw fath o wybodaeth.

Teyrnged i integreiddio | An ode to integration

MLArt: Melissa Rodrigues, Laurentina Miksys a Joel Morris
31 Mai – 06 Gorffennaf 2024
Agoriad arddangosfa: 5-8yh, nos Wener 31 Mai 2024 

Mewn byd sydd wedi’i siapio gan fudo a chymhlethdodau hunaniaeth, mae MLArt yn falch o gyflwyno archwiliad o amrywiaeth drwy arddangosfa grŵp o’r enw “gofod a rennir”. Mae’r arddangosfa hon yn edrych ar linynnau aml-ddiwylliannedd yng nghyd-destun ein cymdeithas gan wahodd gwylwyr i fyfyrio a chysylltu.

Fel artistiaid, rydym yn mynd i’r afael â’r syniad o ‘arallrwydd’ gydag empathi a chwilfrydedd gan adrodd straeon sy’n dathlu’r naratifau unigryw sy’n llywio’r ddynoliaeth a rannwn. Drwy amrywiaeth o gyfryngau a safbwyntiau, rydym yn ystyried beth mae’n ei olygu i berthyn. Ein nod cyffredinol o gael ein derbyn.

O ddarluniau o dreftadaeth i fyfyrdodau o’r galon ar ddadleoliad a gwydnwch, mae pob darn o waith celf yn dyst ac yn arwydd o integreiddio ac o bŵer trawsnewidiol celf wrth feithrin dealltwriaeth ac undod. Wrth i ymwelwyr archwilio’r oriel, byddant yn cael eu hannog i ymgysylltu â’r gwaith celf a herio rhagdybiaethau yn ogystal â gwerthfawrogi’r harddwch a geir mewn amrywiaeth.

Mae “Teyrnged i integreiddio”, a fydd yn agor ar 31 Mai, yn cynnig cipolwg ar sut mae ein cymuned fyd-eang yn parhau i esblygu ac addasu. Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu’r cyfoeth sy’n dod o ddathlu ein gwahaniaethau a chychwyn ar daith tuag at ddyfodol gwell.

Gŵyl GWYDDGig Festival 2024

Gŵyl Gymunedol Gymraeg newydd yn Yr Wyddgrug yw Gwyddgig sy’n ddathliad diwylliannol a chelfyddydol gyda cherddoriaeth byw, gweithdai i deuluoedd a phobol ifanc, sgyrsiau i ddysgwyr a mwy. Felly dyma estyn gwahoddiad i chi i ymuno yn y bwrlwm ar Sgwâr Daniel Owen ar 15fed Mehefin 2024 – ar hyn oll am ddim!

LLYF24: Rhestr Fer | WBOTY24: Shortlist

Wedi misoedd lawer yn darllen trwy gynnyrch llenyddol 2023, mae dau banel beirniadu annibynnol wedi dewis eu rhestrau byrion ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024.

I ddarganfod rhagor am y cyfrolau a’r awduron ar y Rhestr Fer, ewch i dudalen brosiect Llyfr y Flwyddyn.


Bydd seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn cael ei chynnal ar nos Iau, 4 Gorffennaf yn Galeri Caernarfon. Tocynnau ar gael yma.

Gŵyl y Gwylliaid – BWM BWM BWM

Nos Wener 28 Mehefin – Bragdy’r Beirdd – 8yh; gyda’r Prifardd Rhys Iorwerth, yng nghwmni tîm talwrn y Llew Coch. Mynediad £5 – tocyn wrth y drws yn unig.

Dydd Sadwrn 29 Mehefin 2024 – 3yh; Gŵyl hwyliog i ddathlu bywyd ein ffrind, Betsan Wyn Morris. Gig mawreddog yng nghwmni Elin Fflur a’r band, Eden, Mei Gwynedd, Mr, Cowbois Rhos Botwnnog a Mynadd

Mynediad trwy tocyn eventbrite yn unig – £30

Dydd Sul 30 Mehefin – Diwrnod o hwyl i’r teulu – 2yh; yng nghwmni rhai o sêr Cyw ac S4C. Cerddoriaeth gan Gôr Meibion Machynlleth ac Aeron Pughe. Mynediad £5 – tocyn wrth y drws yn unig.

Parti Priodas gan Gruffudd Owen

Parti Priodas gan Gruffudd Owen yw Llyfr y Mis, mis Mai. 

Emynau, tensiynau, a dawnsio ar ben byrddau! Dyma wledd o ddrama gomedi gan Gruffudd Owen a gynhyrchwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru, ac sydd ar daith o amgylch Cymru ar hyn o bryd. 

Bydd parti priodas Dafydd a Samantha yn noson i’w chofio. Mae Lowri yn benderfynol o oroesi diwrnod priodas ei brawd ac Idris yn hiraethu am ei ffrind gorau wrth ddychwelyd i Lyn ar gyfer y diwrnod mawr. Ond a fydd cyfrinachau’r gorffennol yn difetha diwrnod pawb? 

I nodi Parti Priodas yn Lyfr y Mis, y dramodydd Gruffudd Owen sy’n awgrymu pum llyfr fyddai’n gwmni gwych i’r gyfrol.

Sgwrs banel ar-lein: MWY o’r menopôs

Yn dilyn taith o gynhyrchiad Ffenast Siop, mae cyfle i chi ddod i wrando ar sgwrs i wybod MWY am y menopôs.

Sut mae diwylliant yr iaith Gymraeg yn creu rhwystau neu yn hwyluso trafodaethau am lesiant a’r menopôs?

Tocynnau ar gael yma

Gyda phanel arbennig:

Elin Prydderch, Dr Llinos Roberts ac Iola Ynyr

Cadeirydd: Mari Emlyn

Canllaw oed: 18+