The digital home of Welsh culture.

Hunan-Iaith – Where I’m Coming From x Y Stamp

Literature

Ymunwch â’r Stamp a Where I’m Coming From am noson gyffrous o farddoniaeth o Gymru mewn cyfieithiad, fel rhan o’n prosiect ar y cyd, Hunan-Iaith. Bydd hwn yn ddigwyddiad dwyieithog a cheir darlleniadau a thrafodaethau ar y broses o gyfieithu gan Jxffrin Khan, Radha Patel, Grug Muse, Umulkhayr Mohamed, Sadia Pineda Hameed, Iestyn Tyne, Taylor Edmonds, Hanan Issa, Durre Shahwar a Judith Musker Turner.

Beth yw ‘intersectionality’ yn Gymraeg? Pam nad oes term ar gyfer ‘person of colour’? Mae Hunan-Iaith yn brosiect dwyieithog sy’n ymgais i greu iaith trwy ymarfer creadigol. Trwy gyfieithu barddoniaeth a llenyddiaeth i greu gwaith newydd yn y Gymraeg a’r Saesneg ar thema hunaniaeth, mae Hunan-Iaith yn archwilio cyfyngiadau a chyfleoedd y ddwy iaith, ac yn ceisio dod o hyd i ffyrdd newydd o fynegi syniadau ynghylch hunaniaeth, hil, iaith a diwylliant.

SHARE