Wrth i 2025 ddod i ben, dwi’n falch o fyfyrio ar yr hyn y mae PYST ac Am wedi’i gyflawni, ac yn optimistaidd iawn am yr hyn sydd o’n blaenau.
Ers ei sefydlu, mae PYST wedi parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi labeli Cymreig annibynnol a cherddoriaeth lawr gwlad, gan ddosbarthu a hyrwyddo recordiadau gan ddwsinau o labeli annibynnol ledled Cymru.
Mae Am yn parhau i fod yn gartref digidol rhad ac am ddim, cynhwysol a dwyieithog i ddiwylliant Cymru, yn cynnwys popeth o gerddoriaeth i theatr, llenyddiaeth, ffilm, celfyddydau gweledol a mwy.
Mae’r ymrwymiad hwn yn bwysicach nag erioed. Mewn cyfnod o her economaidd a chymdeithasol, mae sicrhau mynediad agored i ddiwylliant a rhoi llais i greadigrwydd annibynnol, dan arweiniad y gymuned, yn hanfodol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf yn benodol, mae Am wedi parhau i ehangu. Erbyn canol 2025, dathlodd y platfform ei bumed pen-blwydd, gan gynnal mwy na 480 o sefydliadau creadigol a chymdeithasol, a miloedd o ddarnau o gynnwys o bob cwr o Gymru. I nodi ei bumed flwyddyn, lansiodd Am wefan wedi’i hailgynllunio a’i gŵyl ffilm ddigidol gyntaf erioed (AmCam), gan ddangos ffilmiau byr gwreiddiol sy’n tynnu sylw at fywyd cymunedol, celf a chydnerthedd ledled Cymru. Mae Am yn parhau i fod yn lle lle gellir gweld a chlywed artistiaid y tu allan i’r cyfryngau prif ffrwd. Mae ei fodel cynhwysol, mynediad agored yn parhau i gynnig gwelededd hanfodol i greadigion llai. Bu’n wych fod yn rhan o’r brand newydd, a gweld y gwefan yn ei newydd-wedd!
Wrth gwrs, mae heriau o’n blaenau o hyd, ond dwi’n edrych ymlaen yn fawr i gydweithio gyda Alun a’r criw i’w goroesi, a symud PYST Cyf yn ei flaen i’w flywddyn orau eto!