Fe agorodd y Pengwern fel tafarn gymunedol yn May 2011. Yn y dechra fe gaeth ei rhedeg gan wirfoddolwyr ond erbyn hyn mae rhan fwya o’r staff yn gyflogedig.
Hen gwesty yw Y Pengwern, yn dyddio yn ol pan roedd cerbydau yn cael ei tynnu gan geffyla. Mae wedi ei leoli yn Llan Ffestiniog ac ynghanol Parc Eryri. Mae y pentref mewn lle canolog yn yr ardal wedi lleoli ar yr A470
Yn Y Pengwern mae na far i gael diod a bwyd, gardd gwrw, bwyty a llofftydd, i aros. Rydym yn ceisio rhoi profiad o Gymeigtod i bobl sydd yn dod i’r Pengwern, lle fedrith ymwelwyr, glywad y’r iaith yn cael ei defnyddio o ddydd i ddydd.

