Mae Podlediad Miwsig Cymreig yn bodlediad wythnosol sy’n dathlu cerddoriaeth a chelfyddyd Gymreig, o’r hen i’r newydd, ac i’r bobl helpodd i’w lunio. Wedi’i gynnal gan Neil Collins a James Cuff, dau ffrind a chyn-weithwyr, sy’n rhannu’r un angerdd am gerddoriaeth a phêl-droed, yn enwedig o Gymru! O’r Anrhefn i Zabrinski, ry’n ni’n trio trafod popeth, o’r amgen i’r newydd i’r artistiaid sydd wedi’i gwreiddio yn y sîn gerddorol ers tro, ar draws cerddoriaeth Cymraeg a Saesneg. Mae pob pennod yn cynnwys gwestai sy’n ymddiddori’n fawr mewn cerddoriaeth ac sydd wedi, mewn un ffordd neu’r llall, rhoi cerddoriaeth o Gymru ar y map diwylliannol. Byddan nhw’n trafod eu gyrfaoedd ac yn rhoi dadansoddiad trylwyr o’u hoff albym Gymreig, sydd yna’n cael eu rhoi yn ein ‘Hall of Fame’ Cerddoriaeth Gymreig. Rydyn ni hefyd yn awyddus i gynnwys penodau dogfen arbennig sy’n darganfod cyfnodau pwysig yn niwylliant Cymru. Cysylltwch os oes gyda chi unrhyw awgrymiadau gwesteion neu bynciau. Os ydych chi’n artist neu fand newydd, anfonwch biograffi a mp3 o’ch tracs gan ein bod ni’n mwynhau arddangos artistiaid newydd ar ddiwedd bob pennod.








