Cartref digidol diwylliant Cymru.

Wales Millennium Centre | Canolfan Mileniwm Cymru

Rydyn ni’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, yn grochan o greadigrwydd i’r genedl.

Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy greu ein cynyrchiadau theatr, gwyliau a phrofiadau digidol ein hunain – yn ogystal â churadu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd a chomedi i ddawns a chabaret.

Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio yn niwylliant Cymru. Rydyn ni hefyd yn elusen, yn cydweithio â sefydliadau, cymunedau a phobl ifanc i sicrhau bod y celfyddydau ar gael i bawb.

Rydyn ni’n ennyn angerdd dros y celfyddydau gyda chyfleoedd dysgu sy’n newid bywydau ac yn rhoi cyfleoedd i bobl ddisgleirio.

NI YW CANOLFAN MILENIWM CYMRU. TANWYDD I’R DYCHYMYG.

Cynnwys