Mae VAINE yn gylchgrawn ac yn blatfform digidol gafodd ei sefydlu yn 2020 i roi llais i egin awduron ac ysgrifenwyr. Wedi’i selio yng Nghymru, mae’n cyhoeddi rhifynnau thematig bob chwarter o’r flwyddyn, yn cynnwys casgliad o farddoniaeth, ffuglen fer, ysgrifennu a chelf gan artistiaid ac ysgrifenwyr newydd ledled y byd, ac mae ar gael yn ddigidol ac mewn print.
Yn fwy na dim ond cylchgrawn, mae’n gymuned sy’n tyfu ar gyfer talent greadigol newydd.
Yn ddiweddar, mae wedi derbyn grant gan Gyngor Llyfrau Cymru, a nawr mae’r cylchgrawn yn talu cyfranwyr, ac yn gobeithio ehangu ei weithredoedd yn y dyfodol i ffrydio fideos, cyhoeddi llyfrau a chynnal digwyddiadau celfyddydol.

