Tŷ Cerdd – Music Centre Wales

Organisation Logo

Mae Tŷ Cerdd yn dathlu ac yn hyrwyddo cerddoriaeth Cymru. O’n prif swyddfa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, rydym yn cydweithio â pherfformwyr, cyfansoddwyr, addysgwyr a chymunedau i feithrin a datblygu cerddora ledled Cymru.
Mae ein label recordiau – Recordiau Tŷ Cerdd – yn cynnwys amrywiaeth eang o albymau cerddoriaeth Gymreig ac mae ein gwasgnod, Cyhoeddiadau Tŷ Cerdd, yn ein galluogi i gyhoeddi gwaith newydd gan gyfansoddwyr Cymreig sy’n byw heddiw yn ogystal â dod â gemau o’r repertoire sydd allan o brint yn ôl ar y tudalennau ac i gymunedau.
Drwy ein menter datblygu artistiaid, CoDI, rydym yn buddsoddi mewn datblygu cymuned sgiliedig ac amrywiol o gyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth yng Nghymru.

Cynnwys