Cartref digidol diwylliant Cymru.

Tŷ Cerdd yn cyflwyno ‘Tapestri’

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi 2026, mae Tŷ Cerdd yn cyflwyno Tapestri, casgliad o ffilmiau byrion sy’n cyfleu ysbryd 15 o grwpiau cerddorol ym mhob cwr o Gymru. Mae Tapestri yn plethu stori fywiog cerddoriaeth Gymreig heddiw.

Crëwyd y ffilmiau yn ystod mis Ionawr 2026 gan y gwneuthurwr ffilmiau arobryn Meinir Siencyn. Mae’r ffilmiau’n cynnig golwg fanwl ar y gerddoriaeth sy’n cael ei chreu heddiw a phwysigrwydd grwpiau o’r fath i gymunedau ledled y wlad.

O gôr a ffurfiwyd gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ensembles gwerin traddodiadol, ac o fand pres i gymdeithas y delyn deires. O gorau meibion i grŵp byrfyfyr arbrofol, mae Tapestri yn profi bod sain Cymru yn fwy amrywiol nag erioed o’r blaen.

Mae Tapestri yn bosibl diolch i Gronfa Dydd Gŵyl Dewi 2026 Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi prosiectau ledled Cymru i ddathlu ein treftadaeth, ein diwylliant a’n gwerthoedd. Nod y gronfa yw gwneud Dydd Gŵyl Dewi 2026 y gorau a’r mwyaf cofiadwy hyd yma.

Cynnwys

Ni chanfuwyd unrhyw ddata