Sefydlwyd Theatr na nÓg bron i 40 mlynedd yn ôl, yn bennaf i ddiwallu anghenion cymuned Gorllewin Morgannwg, ac mae’r Cwmni wedi teithio’n bell ers y dyddiau cynnar. Un o amcanion Theatr na nÓg yw tanio dychymyg ac annog y genedl drwy ddefnyddio cynyrchiadau theatr hygyrch o safon uchel, cynyrchiadau sydd â’r potensial i deithio a chael eu cyflwyno ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol. Rydym yn cynhyrchu dramâu ar gyfer ein cynulleidfa ysgolion gan ddenu ysgolion o mor bell i ffwrdd â Cheredigion i’r gorllewin a Sir Fynwy yn y dwyrain. Gyda rhwydwaith o ysgolion ffyddlon a chefnogol, rydym yn awyddus i hyrwyddo a meithrin pobl ifanc yn y celfyddydau. Rydym hefyd yn darparu gwaith prif lwyfan yn rheolaidd sy’n apelio at ystod eang o oedrannau ac yn teithio i leoliadau ledled y DU.






