Rhoi theatr Gymraeg wrth galon y genedl yw gweledigaeth Theatr Genedlaethol Cymru. Rydym yn creu a chyflwyno cynyrchiadau theatr gyda’r nod o gyffroi, diddanu a thanio dychymyg ein cynulleidfaoedd. Rydym hefyd yn creu cyfleoedd sy’n fodd i feithrin ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o artistiaid theatr Cymraeg ynghyd â chyfleoedd i bobl ledled Cymru brofi effaith drawsnewidiol creadigrwydd yn eu bywydau.
Theatr feiddgar, theatr groesawgar, theatr y bobl.