Mae Theatr Felinfach yn creu cyfleoedd a rhoi mynediad a llwybr gydol-oes i’r celfyddydau a diwylliant Cymru a’r byd trwy raglenni creadigol, cyfranogol a rhaglen o gynyrchiadau proffesiynol.
Theatr wledig, gymunedol yn flaengar ei syniadau, yn fisi ei hamserlen, yn fywiog ei chyfranogwyr a’i chynulleidfa ac yn fyrlymus ei gweithgareddau. O Banto i Barti, o Gyngerdd i Gynhadledd – mae rhywbeth yma i bawb o bob oed – o’r crud i 90 +





