Agorwyd drysau Theatr Soar yn swyddogol ym Mis Mehefin 2011 gyda chyfres o berfformiadau a digwyddiadau i’w lansio. Theatr Gymunedol yw hon ar gyfer cymunedau Merthyr Tudful a’r cyffiniau. Er mwyn sicrhau ein bod yn darparu adnodd ar gyfer y cymunedau a’r unigolion amrywiol yma, rydym yn cynnal ystod eang o berfformiadau a digwyddiadau. Mae calendr Theatr Soar yn llawn trwy gydol y flwyddyn gyda amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys; ddramâu, dawns, cerddoriaeth, ffilm, cyngherddau, comedi a gweithdai.