Dros gyfnod o ugain mlynedd mae The Welsh Agenda wedi cael ei ystyried fel y cylchgrawn diwylliannol a gwleidyddol pwysicaf. Caiff ei gynhyrchu gan yr Institute of Welsh Affairs (IWA) a’i ryddhau ddwywaith bob blwyddyn. Fe’i hystyrir yn gartref ar gyfer newyddiaduraeth araf o safon sy’n edrych ar wleidyddiaeth, cymdeithas, economeg, diwylliant a chwaraeon y genedl. Mae aelodau’r IWA yn cael y golwg cyntaf ar y cylchgrawn cyn i’r argraffiad gael ei ryddhau i’r cyhoedd.
Yn ogystal â chylchgrawn, mae the welsh agenda online yn cyhoeddi erthygl yn ddyddiol sy’n cynnig trafodaethau pynciol, darnau barn a sylwebaeth ar faterion llosg y dydd.
Fel un o felinau trafod annibynnol mwyaf blaenllaw Cymru, mae’r IWA hefyd yn cynnal dadleuon a thrafodaethau ac mae’r rhain ar gael i wylio neu i wrando ar ein gwefan a phlatfformau eraill.
I ymuno â’r IWA, ewch i https://www.iwa.wales/about-us/support-us/
