Mae Glan yr Afon yn ganolfan theatr a chelfyddydau fywiog yng nghanol dinas Casnewydd sy’n dod â chynifer o bobl â phosibl i gysylltiad â’r celfyddydau a chreadigrwydd, gyda pherfformiadau proffesiynol, dangosiadau ffilm a gweithdai.
Yn ogystal â phriod waith y tŷ, nod Glan yr Afon yw cynnig cyfleoedd creadigol i bobl o bob oed yng nghymunedau niferus Casnewydd a’r cyffiniau drwy gydgysylltu llawer o wahanol brosiectau celfyddydol, digwyddiadau, gweithgareddau a gweithdai. Mae prosiectau cymunedol mawr yn cynnwys Gŵyl Sblash Fawr, digwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a chefnogi Celf ar y Mynydd, Casnewydd.
Glan yr Afon yw’r unig ganolfan theatr a chelfyddydol gyflwynol broffesiynol yng Nghasnewydd ac yn ogystal â meddu ar ddau ofod theatr, mae’n gartref hefyd i oriel gelf, stiwdio ddawns, stiwdio recordio, ystafelloedd gweithdai, ystafell gynadledda a chaffi trwyddedig.





