Mae’r storiâu rydym yn adrodd i’n gilydd yn dangos beth sydd yn bosib rhyngom. Maen nhw’n ein galluogi i weld ffyrdd newydd o berthyn i a bodoli yn y byd, gyda’n gilydd a gyda natur. Rydym yn credu bod dweud straeon ar y cyd at wraidd y newidiadau trawsnewidiol sydd angen ar ein cymdeithas.
Dyna pan mae The People’s Newsroom yn cefnogi dysgu a gweithredu er mwyn i bobl a sefydliadau wynebu’r amryw argyfyngau cydgysylltiol sydd yn sefyll o’n blaenau gyda gweledigaeth, dychymyg, a phrosesau newydd ar gyfer dychwelyd straeon a dweud stori wrth ein cymunedau.
Rydym yn gwybod ei bod yn bosib cael ecosystem gwybodaeth wedi ei berchnogi a’i arwain yn gymunedol ac yn lleol, sydd yn ffynnu ac yn amrywiol. Rydym yn credu ei fod yn bosib creu straeon sydd wedi eu gyrru gan werthoedd, yn llesol, yn cael eu cyfeirio gan bosibiliadau ac yn adeiladu grym. Rydym yn gwybod ein bod yn gallu cydweithio i adeiladu mudiad sydd yn ein trawsgyweirio tuag at ecosystem gwybodaeth sydd yn ein gwasanaethu ar lefelau lleol, cenedlaethol a phlanedol.


