Ein gweledigaeth yw byd celfyddydol ble mae’r storiau sy’n cael eu dweud ac y lleisiau sy’n cael eu clywed yn adlewyrchu y byd rydym yn byw ynddo; ble mae’r theatr rydym yn ei greu yn deall cynulleidfaoedd o bob cefndir ac yn eu gwahodd ac eu croesawu. Rydym yn credu mewn theatr sydd yn hybu cydrddoldeb ac yn cynnig yr un cyfleoedd i bawb.
Mae Taking Flight wedi bod yn creu celf cynhwysol am dros 12 mlynedd. Mae’r gwaith wedi teithio helaeth ar draws Gymru a Lloegr. Rydym hefyd wedi teithio ar draws Ewrop, yn cynnwys Iwerddon a fwyaf diweddar yr Almaen, ble cawsom ein gwahodd i berfformio a siarad yn TheatrFestival Grenzenlos Kulture fel enghraifft o hygyrchedd o safon uchel o fewn y byd theatr. Yn ddiweddar, aethom ar daith gyda cynhyrchiad lwyddiannus o ‘Peeling’ gan Kaite O’Reilly ac addasiad o ‘You’ve Got Dragons’, y llyfr plant gan Kathryn Cave.



