Cartref digidol diwylliant Cymru.

Tactile Bosch

Mae tactileBOSCH yn gymuned celfyddydol uchelgeisiol ac egnïol sydd yn hyrwyddo arbrofi artistig. Wedi selio yng Nghaerdydd, rydym yn arbenigo mewn digwyddiadau sydd yn cyfuno perfformiad celf, arsefydliadau aml-gyfrwng mewn sefydliadau penodol, a lleoliadau cyhoeddus.
Fel prosiect teithiol, mae tactileBOSCH yn chwilio ac yn addasu i ystrad eang o leoliadau a chyd-destunau. Yn adfer adeiladau anarferol ac anghyraeddadwy, rydym yn ymateb i gyseinedd y pensarniaeth, defnydd, cyd-destun a hanes yr adeiladau rydym yn adfywio.
Anelwn i ehangu’r berthynas arferol rhwng artist, curadur, oriel, cynulleidfa a chelf er mwyn bachu’r gynulleidfa gyda phrofiadau annisgwyl, heriol, trawsnewidiol a hwyl! Mae ein digwyddiadau yn atynnu cynulleidfaoedd eang ac amrywiol, ac wedi creu enw da i tactileBOSCH fel un o sefydliadau celfyddydol mwyaf arbrofol a chyffrous Cymru.

Yn ei 19 mlynedd fel cwmni, mae tactileBOSCH wedi cyd-weithio gyda dros 1000 o artistiaid ledled y byd, yn cyfuno artistiaid a churadwyr lleol a rhyngwladol, i gyflwyno ystrad eang ac amrywiol o gelf newydd i gynulleidfaoedd newydd. I ni, mae hi’r un mor bwysig i fagu talent ac y mae hi i’w arddangos, er mwyn meithrin a chefnogi ecoleg celfyddydol Cymru.
Mae ein dull anghonfensiynol o arddangos artistiaid ifanc a newydd ynghyd a rhai mwy profiadol a sefydledig yn helpu i greu system gefnogol – amgylchedd gyfeillgar lle y gall artistiaid ddysgu gan ei gilydd, cyd-weithio, a mentro. Drwy weithio mewn adfeilion a lleoliadau anarferol, rydym yn creu cyd-destun lle y gall artistiaid arbrofi yn rhwydd gyda’u gwaith mewn ffyrdd a fyddai’n amhosib mewn oriel mwy traddodiadol. Mae’r modus operandi yma wedi bod yn elfen hanfodol o lwyddiant tactileBOSCH yn cynnig arddangosfeydd a digwyddiadau aml-gyfrwng cynhyrfus yngh Nghymru ac yn rhyngwladol.

Tra bo arbrofi ac arloesi yn gynhenid i’n ethos fel cwmni, mae hygyrchedd a chynwysoldeb yn hanfodol hefyd. Mae tactileBOSCH yn cynnal hanes o gynyddu perthynas gyda’r cyhoedd, atynnu cynulleidfaoedd newydd drwy greu awyrgylch sydd yn hwylus ac yn groesawgar i bawb.
Mae creu digwyddiadau sydd yn ymdrochol, rhyngweithiol yn galluogi i bobl hawlio’r broses o weld a bhrofi celf. Ein nod yw i greu awyrgylch croesawgar, ac i fagu perthynas gryf gyda cymunedau a busnesau lleol, lle bynnag rydym wedi ein lleoli, ac eu cynnwys yn y broses creadigol.
Mae cynhwysoldeb yn hanfodol i’n mudiad, a rydym yn credu fod cymryd celf allan o’r oriel a mewn i gyd-destunau cymdeithasol amgan yn galluogi i ni gyrraedd mwy o bobl, yn sicrhau fod y celfyddydau ar gael i bobl o bob oed a chefndir, ac i’r rhai a fyddai efallai’n teimlo fod celf yn elitaidd neu’n anghynhwysol. Mae’r niferoedd uchel sydd wedi mynychu ein sioeau ac yr amrywiaeth o fewn ein cynulleidfaoedd yn brawf o’r awch ar gyfer ac y pherthnasedd ein celf.

Cynnwys