Mae Sesiwn Fawr yn ŵyl blynyddol sy’n denu miloedd o bobl i Ddolgellau i fwynhau y gorau o gerddoriaeth gwerin a cherddoriaeth Cymraeg, yn ogystal â dawns, llenyddiaeth, gweithgareddau i blant, comedi, bwyd a diod. Mae’r ŵyl yn llenwi pob twll a chongl Dolgellau yn ystod y penwythnos, gyda digwyddiadau yn cael eu cynnal mewn amryw leoliadau, ac yn llwyddo i ddenu artistiaid gwerin a Chymraeg o’r radd flaenaf i’r dref.
Bydd y Sesiwn Fawr eleni yn cael ei chynnal penwythnos 15 – 17 Gorffennaf 2022.








