Cartref digidol diwylliant Cymru.

Seren

Seren ydy cyhoeddwyr llenyddol annibynnol mwyaf Cymru, yn arbenigo mewn llenyddiaeth Saesneg o Gymru. Gyda rhestr yn cynnwys barddoniaeth, ffuglen ac ysgrifennu ffeithiol, mae llawer o’n llyfrau yn cael eu henwebu- ac yn ennill – y gwobrau llenyddol mwyaf yn y Deyrnas Unedig ac America.

Ein nod yw i nid yn unig adlewyrchu beth sydd yn digwydd o fewn y diwylliant rydyn ni yn ei gyhoeddi, ond i ddatblygu’r diwylliant yna, i gysylltu efo’r byd, ac i ddangos llenyddiaeth, celf a gwleidyddiaeth Cymru i gynulleidfa fwy eang.

Canolbwynt ein harlwy yw stori dda wedi ei hadrodd yn ddifyr, neu syniad neu hanes wedi ei gyflwyno yn ddiddorol neu’n bryfoclyd. Mae ein hawduraeth a’n darllenwyr yn rhyngwladol., er bod ein gwreiddiau yn parhau i fod yng Nghymru, ble rydym yn profi fod gan ysgrifennwr o wlad fach gyda diwylliant cain berthnasedd byd-eang.

Ers ein sefydliad yn 1981, mae Seren wedi datblygu i mewn i un o’r cyhoeddwyr mwyaf difyr ym Mhrydain. Wedi ein seilio ym Mhen-y-bont, rydym yn parhau i feithrin a chyhoeddi talent newydd, sydd â rhinweddau cydnabyddedig ledled y byd.

Cynnwys