SAIN – Prif Gwmni Recordio Cymru
Sefydlwyd Sain yn 1969 gan Dafydd Iwan, Huw Jones a Brian Morgan Edwards a chyhoeddwyd y record cyntaf ar y label, ‘Dŵr’ gan Huw Jones, ar Hydref 9fed y flwyddyn honno. Recordiwyd nifer o ganeuon cynnar y label yn Stiwdio Rockfield yn Sir Fynwy ac yna yn 1975, agorwyd stiwdio gyntaf Sain ar fferm Gwernafalau ger Llandwrog. Yn y cyfnod cynnar roedd y pwyslais ar ganu’r ifanc, canu pop a gwerin a chanu protest. Erbyn heddiw cyhoeddir pob math o gerddoriaeth ar y label o werin i roc ac o glasurol i ganu gwlad. Symudodd y stiwdio a swyddfeydd y cwmni i’w safle presennol yn Llandwrog yn 1980 ac mae’r gerddoriaeth a’r cyhoeddi’n parhau.
Bu 2019 yn garreg filltir arbennig i Sain ac yn gyfle i ddathlu hanner canrif o recordio a chyhoeddi. Mae archif y cwmni yn drysor cenedlaethol a braf, gyda chymorth Cronfa Treftadaeth y Loteri, oedd gallu gwahodd y cyhoedd, gwirfoddolwyr o’r gymued a chynulleidfa cerddoriaeth Sain dros y blynyddoedd, i ymuno â ni i weithio ar brosiect Sain 50 – prosiect a fu’n archwilio’r archif gerddorol ac yna ei chyflwyno ar ffurf arddangosfa a gweithdai.
Mae Sain wedi bod yn gyfeiliant i fywydau pobl Cymru ers diwedd y 60au a’r gerddoriaeth a’r caneuon yn drac sain i gyfnodau amrywiol yn ein hanes. Edrychwn ymlaen at yr hanner can mlynedd nesaf. Ymlaen â’r gân!





